Neidio i lywio cynradd Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

CYRSIAU CWCH PWER RYA

Eisiau profiad hamddenol drwy forio’n braf a hefyd y wefr o wibio ar draws y dŵr agored? Mae ein dewis o gyrsiau gyrru cychod pŵer yn cynnig y gorau o ddau fyd, ar gyfer amrywiaeth o lefelau sgiliau!

Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad, rydym yn sicrhau bod ein hyfforddwyr hynod fedrus yn darparu’r hyfforddiant gorau posibl i unrhyw un sy’n dilyn ein cyrsiau nios ydych chi’n mynd allan ar y dŵr am y tro cyntaf, neu’n yrrwr cychod pŵer profiadol ac yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau.

Mae cwrs Cychod Pwer Lefel 1  Dechrau Gyrru Cychod Pŵer yr RYA yn gyfle gwych i chi dreulio’r diwrnod ar y dŵr, heb fod angen unrhyw brofiad blaenorol. Gallwch hefyd ddod â hyd at ddau o blant gyda chi, ffordd wych o ennyn diddordeb y teulu mewn cychod, a dechrau datblygu sgiliau o oedran iau.

Bydd ein cyrsiau Canolraddol ac Uwch yn helpu’r cyfranogwyr i adeiladu ar eu sgiliau gyrru presennol, a datblygu eu hyfedredd wrth drin cychod pŵer mewn amodau mwy heriol. Bydd y cyrsiau hyn hefyd yn eich galluogi i yrru cychod pŵer mwy, a mwy pwerus, ar ddyfroedd arfordirol.

 

Mae ein holl gyrsiau ni wedi’u hachredu gan yr RYA. Ar ôl eu cwblhau, byddwch yn cael tystysgrif a gydnabyddir yn rhyngwladol a fydd yn eich galluogi i yrru cychod pŵer mewn canolfannau ledled y byd. Darganfyddwch fwy am ein holl gyrsiau sydd ar gael isod.


Cwch Pwer Lefel 2 yr RYA – 2 ddiwrnod O £312.46

Bydd y cyflwyniad ymarferol hwn i gychod pŵer yn rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnoch i weithredu cwch pŵer yn ddiogel ac yn hyderus mewn dyfroedd arfordirol.

Gellir archebu’r cwrs hwn hefyd fel teulu o 2 Oedolion ac un Plentyn, neu 1 oedolyn a 2 o blant dros 12 mlwydd oed, dyma ei’n cwch pwer lefel 2 teulu.