Wedi’i sefydlu i gefnogi gwaddol cenedlaethol yn dilyn y Gemau Olympaidd, mae Legacy Leisure yn ceisio addysgu, ysbrydoli a chefnogi gweithgarwch corfforol, gwella bywydau ein noddwyr a galluogi newidiadau cadarnhaol hirdymor i ffordd o fyw. Mae Legacy Leisure yn angerddol am wella iechyd a lles ein noddwyr, ac yn anelu at gynnig ystod amrywiol o weithgareddau corfforol a diwylliannol a fydd yn ymgysylltu ac yn bywiogi cymunedau, boed hynny trwy chwaraeon, y celfyddydau neu weithgareddau eraill.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.legacyleisure.org.uk neu www.plasmenai.wales
Teitl y Swydd: Hyfforddwr Gweithgarwch Tymhorol
Fel Hyfforddwr Tymhorol ym Mhlas Menai, byddwch yn ymgorffori meddylfryd proffesiynol sy’n sicrhau cydbwysedd rhwng arweinyddiaeth addysgu lefel elitaidd ac ymrwymiad llwyr i ragoriaeth weithredol. Diffinnir eich rôl gan Ddarparu Diogelwch Yn Gyntaf, lle byddwch chi’n arwain ac yn cynorthwyo gyda gweithgareddau dŵr a thir o ansawdd uchel wrth lynu’n llym at y Llawlyfr Diogelwch a Gweithredol a safonau CRhC. Y tu hwnt i’r dŵr, byddwch yn gwasanaethu fel Llysgennad Proffesiynol i Blas Menai a Legacy Leisure, gan ymgysylltu â’r busnes hamdden drwy oruchwyliaeth campfa a diogelwch dyfrol fel achubwr bywyd os ydych chi’n gymwys.
Yn driw i Feddylfryd Plas Menai, byddwch yn dangos hyblygrwydd gweithredol drwy reoli cylch bywyd llawn yr offer – o baratoi a glanhau yn drwyadl i gynorthwyo gydag atgyweiriadau technegol, a sicrhau bod ein cyfleusterau o safon byd ar eu gorau bob amser drwy gynnal a chadw cyffredinol. Mae eich dull o weithredu gyda’i Ffocws ar Dwf yn cael ei adlewyrchu yn eich cyfrifoldebau arweinyddiaeth haenog, gan weithredu fel Cyfarwyddwr Cwrs ar gyfer grwpiau llai, a’ch ymgysylltu rhagweithiol â hyfforddiant Cymraeg i fodloni safonau gwasanaeth dwyieithog.
Yn olaf, byddwch yn cynnal Integriti Gweithredol y Ganolfan drwy gymryd rhan yn y cylchdro dyletswydd ar alwad, gan ddarparu diogelwch safle hanfodol, croesawu gwesteion, a darpariaeth wrth gefn frys gan ymatal yn llym rhag yfed unrhyw alcohol er mwyn bod yn barod os daw galwad – DISGRIFIAD SWYDD LLAWN
I wneud cais, anfonwch e-bost at [email protected]
Teitl y Swydd: Prentis ar y Rhaglen Datblygu Hyfforddwyr
Mae hon yn Brentisiaeth Lefel 2/3 am 12 mis mewn Arweinyddiaeth Gweithgareddau, gyda chyfle i ymestyn am ail dymor (hyd at 18 mis). Mae hyn yn dibynnu ar addasrwydd ac yn ôl disgresiwn llwyr Legacy Leisure, ac mae hefyd yn amodol ar berfformiad ac anghenion y busnes. Byddwch yn cael hyfforddiant i gynorthwyo gyda / cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau awyr agored ac antur. Byddwch hefyd yn dysgu am redeg canolfan gweithgareddau awyr agored brysur yn gyffredinol. Mae ein gweithgareddau ni ar y dŵr yn cynnwys hwylio, gwyntsyrffio, wingio, chwaraeon padlo a gyrru cychod pŵer. Mae ein gweithgareddau ni ar y tir yn cynnwys wal ddringo bwrpasol ar y safle, cwrs rhaffau sydd newydd ei ddatblygu, crwydro ogofâu, beicio mynydd, sgiliau tân gwersylla a chrefft y gwyllt, yn ogystal ag amrywiaeth o gemau tîm. Mae’r gweithgareddau oddi ar y safle’n cynnwys cerdded, cerdded ceunentydd, beicio mynydd ac arfordiro. Bydd y prentisiaid hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen nofio helaeth sydd wedi’i hachredu gan Nofio Cymru ac yn gweithio yn y gampfa fel rhan o ochr hamdden y busnes. Yn y rôl hon, byddwch yn cynorthwyo gyda goruchwylio’r gampfa a pharatoi dosbarthiadau ffitrwydd, gan sicrhau bod yr holl amgylcheddau’n bodloni ein safonau proffesiynol uchel. Mae hyn yn cynnig llwybr unigryw i chi ennill cymwysterau sy’n cael eu cydnabod gan y diwydiant mewn ffitrwydd a hamdden, gan ychwanegu dimensiwn gwerthfawr at eich portffolio fel hyfforddwr awyr agored – DISGRIFIAD SWYDD LLAWN
I wneud cais, anfonwch e-bost at [email protected]