Fel canolfan RYA (Royal Yachting Association) gyda dros 40 mlynedd o brofiad o gynnal gweithgareddau ar y dŵr, rydym yn falch o gael enw da rhyngwladol am ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau gorau i ei’n cwstmeriad.
Bydd ein cyrsiau ieuenctid, ein halldeithiau a’n wythnosau gweithgareddau yn diddanu’r plant, wrth iddynt wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn anturiaethau cyffrous, gan greu atgofion a fydd yn para oes.
Nid ond gweithgareddau dŵr yn yr ydym yn eu cynnig chwaith! Rydym yn cynnal detholiad o anturiaethau dan do ac awyr agored, gan gynnwys rhaffau uchel, wal ddringo, ac alldeithiau beicio mynydd a llawer mwy.
Cychwyn ar Antur gyda’n Sesiynau CAIAC DARGANFOD!
Dal y Gwynt yn Ein Sesiwn Darganfod Hwylfyrddio!
Hwylio am Hwyl gyda’n Sesiynau HWYLIO DARGANFOD
Gwnewch Sblash gyda’n Sesiynau Darganfod SUP!
CLWB SUP Plas Menai
Ymunwch â phobl o’r un fryd a gwella eich hyder ar SUP, mae’r sesiynau 2 awr hyn yn rhedeg am 6 nos Fawrth yn olynol.
Dewch I Plas Menai i gael wythnos llawn hwyl, rhowch cais i gweithgareddau newydd fel Hwylio, Caiaco, Cwrs Raffau Uchel a llawer mwy. Mae’r wythnosau yma wedi cael ei wneud i neud yn siwr fod bob plentyn yn cael wythnos llawn hwyl.
Gewch digon o hwyl yn yr wythnosau yma, efallai y byddwch chi’n gwneud ffrindiau wneith parhau am oes fel eich atgofion.
Mae ein Sgwad Hwylio Dreigiau Menai yn gyfle i hwylwyr ifanc ifanc ddatblygu, gwella a mireinio eu gwybodaeth a’u sgiliau hwylio. Cynhelir y sesiynau ar DYDD SUL.
Mae ein Sgwad Hwylfyrddio Dreigiau Menai yn gyfle i hwylfyrddwyr ifanc sy’n dod i’r amlwg ddatblygu a mireinio eu gwybodaeth a’u sgiliau hwylfyrddio. Mae’r sgwad hon ar gyfer hwylfyrddwyr ifanc profiadol, sydd i gyd ar lefel ganolradd o “planio” / ddim “planio”
Cyffro, antur a mwy fel rhan o’r wythnos weithgarwch yma sy’n llawn adrenalin.
Mae ar gyfer plant ychydig yn hyn na’r wythnos Antur ac mae’r wythnos hon yn cynnig gweithgareddau ychydig yn fwy heriol.