O hwylio i wyntsyrffio a gyrru cychod pŵer, mae ein dewis o gyrsiau yn cynnig yr opsiwn perffaith i blant gymryd rhan yn ein gweithgareddau ar y dŵr a dysgu sgiliau gwerthfawr o oedran ifanc. Byddant yn gallu defnyddio’r sgiliau hyn mewn canolfannau ar draws y byd, gyda chyrsiau achrededig yr RYA sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol.
I’r rhai sydd eisiau wythnos o fwrlwm yn llawn gweithgareddau, mae ein Hwythnos Antur yn gyfle perffaith i ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a mwynhau anturiaethau di-dor. Gyda chyffro ac antur rownd pob cornel, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar y dŵr ac oddi arno. O feicio mynydd i gaiacio, gwyntsyrffio i ganŵio, adeiladu cuddfannau a byw yn y gwyllt i badlfyrddio yn sefyll, does byth eiliad ddiflas.
Darganfyddwch fwy am yr Wythnos Antur llawn hwyl ac wythnosau Traeth, Môr, Hwylio a Syrffio ynghyd â’n holl gyrsiau ieuenctid sydd wedi’u hachredu gan yr RYA gan ddefnyddio’r dolenni isod.