Manylion Cyflym
Competent Crew
£ 874.45
Coastal Skippers
£ 874.45
Advance Your Seamanship Skills in Caernarfon, Wales!
Cyfle i ddatblygu eich sgiliau hwylio iot ar y cwrs yma lle mae’r cyrsiau RYA Criw Medrus ac RYA Capten Arfordirol yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd. Mae ein hyfforddwyr ni i gyd yn gapteiniaid hynod wybodus a phrofiadol a byddant yn sicrhau eich bod yn cael y gorau allan o’ch amser ar fwrdd yr iot.
RYA Criw Medrus: Mae’r cwrs yma ar gyfer dechreuwyr a’r rhai sydd eisiau bod yn aelod criw gweithredol, yn hytrach na dim ond teithiwr.
RYA Coastal Skipper: Mae’r cwrs yma ar gyfer y rhai sydd eisiau bod yn gapten ac sydd â rhywfaint o brofiad hwylio a sgiliau mordwyo a hwylio sylfaenol. Erbyn diwedd yr wythnos, dylai’r capteiniaid arfordirol allu hwylio llwybrau mwy anodd yn ystod y dydd a’r nos a thrin yr iot mewn amodau mwy heriol.
Pwyntiau dysgu allweddol: Llunio llwybr, paratoi ar gyfer y môr, creu llwybr a gallu fel capten, trin yr iot dan hwyl a phŵer, tywydd drwg.
Prydau bwyd ar fwrdd y cwch: Bydd digon o fwyd yn y cwch i ddarparu tri phryd y dydd a hefyd byrbrydau a diodydd. Os oes gennych chi unrhyw ofynion arbennig o ran deiet, cofiwch eu nodi wrth archebu.
Yr Iot: Hanse 385, 38 troedfedd. Mae’r iot yma wedi’i chodio’n fasnachol gan RYA/MCA fel iot sy’n cydymffurfio â chategori 2 a gall gludo 6 o bobl gan gynnwys y Capten. Ymhlith y cyfleusterau ar y bwrdd mae: gwres, dŵr poeth, popty, oergell, toiled, Radar, GPS ac AIS.
Cyrraedd a Gadael: Mae ein holl gyrsiau morio wythnos yn dechrau am 7.00pm ar y nos Sul. Cofiwch gyfarfod eich capten yn y Dderbynfa am 7pm, lle cewch friff byr a dillad dal dŵr, cyn gyrru i lawr at yr iot, sydd wedi’i hangori yn y Felinheli, ryw 5 munud o’r Ganolfan. Byddwch yn aros ar fwrdd yr iot am bump noson eich cwrs
Cofiwch ddod â’r canlynol gyda chi; dillad cynnes, sach gysgu a welingtyns hwylio (dim sawdl/gwaelod du)
Manylion cofrestru
Cyrhaeddwch y ganolfan erbyn 19:00, am sesiwn friffio gyda’r hyfforddwr cyn mynd i borthladd Dinorwig
Y Camau Nesaf: Os ydych chi eisiau datblygu eich morio, dylai’r rhai sydd ar y cwrs RYA Criw Medrus ystyried symud ymlaen i lefel RYA Capten Dydd. Argymhellir eich bod yn cwblhau RYA Theori Capten Dydd cyn sefyll tystysgrif ymarferol RYA Capten Dydd. Ar gyfer y rhai sy’n cwblhau tystysgrif RYA Capten Arfordirol, dylech gasglu oriau a phrofiad ac wedyn ystyried yr wythnos Paratoi ar gyfer Iotfeistr neu os ydych chi’n teimlo’n barod, mynd yn syth am yr Arholiad.