Manylion Cyflym
Person
£ 429.12
Nod y Cwrs Hyfforddwr Cychod Pwer Uwch yw sicrhau bod gan y darpar APBI brofiad, gwybodaeth a medrusrwydd i addysgu’r cyrsiau Uwch a Chanolraddol a’r Cyrsiau Gweithredwr Tendr. Ar yr un pryd, mae’r gymeradwyaeth yn sicrhau eich bod yn gwybod yn union beth i’w addysgu yn erbyn pob un o feysydd pwnc y cyrsiau hyn.
Cyflwynir y gymeradwyaeth drwy gymysgedd o weithdai a sesiynau ymarferol a fydd yn cael eu harwain i raddau helaeth gan yr ymgeiswyr hyfforddi eu hunain gyda mewnbwn gan yr hyfforddwr.
Beth sydd wedi’i gynnwys
Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar a phrofiadol yn tywys y cyfranogwyr bob cam o’r ffordd, gan ddarparu cyfarwyddyd clir, anogaeth ac amgylchedd dysgu cadarnhaol. Byddwn hefyd yn darparu’r holl ddillad amddiffynnol personol angenrheidiol gan gynnwys siwtiau gwlyb, dillad gwrth-ddŵr, cymhorthion arnofio a helmedau.
Beth nad yw wedi’i gynnwys
Diodydd poeth a bwyd drwy gydol y cwrs
Manylion cofrestru
Cyrhaeddwch 15 munud cyn amser dechrau’r cwrs
- Dillad nofio a thywel
- Esgidiau ar gyfer mynd ar y d?r
- Sanau sy’n gorchuddio eich fferau
- 50c ar gyfer locer
Meini Prawf Cymhwysedd
Tystysgrif cymorth cyntaf
RYA Hyfforddwr Cychod Pwer
Tystysgrif cwblhau Cwrs Cychod Pwer Uwch
Un o’r Tystysgrifau Medrusrwydd canlynol:
– Cychod P?er Uwch – RYA Iotfeistr Arfordirol (pwer)
– RYA Iotfeistr Oddi ar y Lan (pwer)
– Cymeradwyaeth Fasnachol (Dim ond cychod p?er Canolraddol fydd Uwch Hyfforddwyr heb CE ddilys yn gallu ei addysgu)
Ychwanegion
– Llety ar gael fel ychwanegiad
Datganiad Iechyd
Ar ôl cwblhau eich cwrs yn llwyddiannus, gofynnir i chi lofnodi datganiad iechyd yn nodi nad ydych yn dioddef o unrhyw nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol ar eich gallu i gyflawni eich dyletswydd o ofal yn briodol fel hyfforddwr. Os na allwch lofnodi’r datganiad safonol, bydd gofyn i chi lenwi holiadur meddygol.