Neidio i lywio cynradd Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae’r ddogfen hon yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio eich data personol.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau preifatrwydd pob unigolyn y mae Parkwood Leisure a’i is-gwmnïau/chwaer gwmnïau yn casglu, storio, prosesu a dinistrio ei ddata personol. Gall unigolion o’r fath gynnwys ein haelodau a defnyddwyr terfynol ein gwasanaethau, gweithwyr ein cleientiaid a’n defnyddwyr gwasanaethau, ymwelwyr eraill â’n gwefan, unig fasnachwyr, partneriaethau, cyflenwyr hunangyflogedig a gweithwyr ein cyflenwyr a’n contractwyr. Yn y polisi hwn rydym yn esbonio sut rydym yn storio, prosesu a chadw eich data personol.

Mae sawl cwmni yn gysylltiedig â Parkwood Leisure Limited y mae’r polisi hwn yn berthnasol iddynt:

Parkwood Leisure Limited, Legacy Leisure, Lex Leisure, Parkwood Outdoors a Parkwood Community Spaces. Mae’r cwmnïau hyn yn gyfrifol am y gwefannau canlynol:

leisurecentre.com, parkwoodleisure.co.uk. legacyleisure.org.uk, lexleisure.org.uk, parkwoodoutdoors.co.uk, ruffordabbey.com, parkwoodcommunityspaces.co.uk, parkwoodhealthandfitness.co.uk, plantasiaswansea.co.uk, bospool.com, plasmenai.wales

  1. Sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio?

1.1. Mae’r adran hon yn rhoi gwybodaeth i chi am y canlynol:

  1. a) pa ddata personol rydym yn ei storio ac yn ei brosesu;
  2. b) o ran data personol nad oeddem yn ei gasglu gennych yn uniongyrchol, o ble

y cawsom y data hwnnw a pha fathau o ddata rydym wedi’u casglu;

  1. c) at ba ddibenion y gallwn brosesu eich data personol;
  2. ch) y seiliau cyfreithiol yr ydym yn prosesu eich data yn unol â nhw.

Cwynion

Dulliau prosesu eraill y gallwn eu cyflawni

AELODAU, CWSMERIAID A DEFNYDDWYR TERFYNOL EIN GWASANAETHAU

1.2. Data cyswllt. Efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth y byddwch yn ei darparu i ni (“data cyswllt”). Gall y data cyswllt hwn gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, a gellir ei ddarparu i ni yn bersonol neu drwy ein gwefan. Gallwn ddefnyddio’r data cyswllt hwn yn ystod y cyfnod o ddarparu ein gwasanaethau, ar y cyd â’n partneriaid, ein cyflenwyr a’n cleient, i chi. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw at ddibenion cyflawni ein contract gyda chi, neu i gymryd camau ar eich cais cyn ymrwymo i gontract.

Lle rydych wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny, efallai y byddwn yn cysylltu â chi gyda deunydd hyrwyddo a’r cynigion diweddaraf am ein cynnyrch a’n gwasanaethau, a rhai ein sefydliadau partner, ac yn anfon cylchlythyrau atoch.

1.3. Data Aelodau / Cwsmeriaid. Os ydych chi’n aelod neu’n gwsmer, efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni (“data aelodau/cwsmeriaid”). Gall y data hwn gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni, rhyw, manylion cyflogaeth, llun ohonoch, gwybodaeth am eich trwydded yrru, dyddiad geni, manylion cerbyd, enw a chyfeiriad meddyg, delweddau teledu cylch cyfyng a gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn delweddau neu destunau y byddwch wedi’u hanfon atom a allai gynnwys data lleoliadol, ac y gellir ei ddarparu i ni yn bersonol, drwy ein gwefan neu’r safleoedd porth ar-lein rydym yn eu darparu.

Efallai y byddwn yn defnyddio’r data hwn i ddarparu gwybodaeth prisio i chi, i weinyddu eich cyfrif(on) gyda ni, ac i ddarparu ein gwasanaethau i chi. Gellir prosesu data’r aelodau/cwsmeriaid hefyd wrth i chi ddefnyddio’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, ac at ddibenion gweinyddu ac adnewyddu eich aelodaeth, cyflawni ein contract gyda chi neu wrth gymryd camau ar eich cais cyn ymrwymo i gontract. Efallai y bydd eich data hefyd yn cael ei wneud yn ddienw at ddibenion dadansoddi a monitro tueddiadau mewn gweithgarwch.

Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth berthnasol ar gyfer iechyd ac anafiadau hirdymor, gwybodaeth am unrhyw anabledd a allai fod gennych a gwybodaeth feddygol bwysig arall at ddibenion gwiriadau ffitrwydd ac iechyd ac i sicrhau bod y ffordd rydym yn darparu gweithgareddau i chi gymryd rhan ynddynt yn ddiogel. Mae’r data hwn yn gategori arbennig o ddata personol a byddwn ond yn ei brosesu gyda’ch caniatâd penodol at ddibenion y cytunwyd arnynt wrth i ni ei gasglu neu mewn amgylchiadau eithriadol efallai y byddwn yn ei rannu â gweithwyr meddygol proffesiynol os bydd angen triniaeth arnoch.

Mae angen i’r caniatâd i ddefnyddio’r wybodaeth hon gael ei roi gan riant ar gyfer plant sydd dan 16 oed. Gall unrhyw un sydd dros 16 oed roi caniatâd i ddefnyddio ei ddata o dan GDPR. Lle rydych wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny, efallai y byddwn yn cysylltu â chi gyda deunydd hyrwyddo a’r cynigion diweddaraf am ein cynnyrch a’n gwasanaethau, a rhai ein sefydliadau partner, ac i anfon e-gylchlythyrau, negeseuon testun neu wybodaeth wedi’i hargraffu atoch.

Nid ydym yn rhannu eich data ag unrhyw drydydd partïon ac eithrio cwmnïau yn ein Grŵp a’n partneriaid prosesu sy’n ddarostyngedig i’r polisi hwn ac sydd ond yn prosesu’ch data ar ein rhan. Ni fydd unrhyw drydydd parti yn cysylltu â chi at ddibenion marchnata.

Os bydd angen i ni rannu eich manylion, e.e. at ddibenion cyflawni gwobr gystadleuaeth, caiff hyn ei gyfleu yn nhelerau ac amodau’r gystadleuaeth neu weithgaredd arall a byddwn yn ymdrechu i roi gwybod am hyn i chi’n bersonol cyn iddynt gael eu rhannu. Ni fyddant yn cael eu storio gan y trydydd parti na’u defnyddio at unrhyw bwrpas ar wahân i’r hyn a nodir.

Lle rydych wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth, byddwn yn cyhoeddi ein henillydd ar y cyfryngau cymdeithasol drwy dagio eich cyfrif. Drwy gyfryngau eraill byddwn yn ymdrechu i warchod pwy ydych chi drwy beidio â chyhoeddi manylion llawn, e.e. Mr J Bloggs.

Os byddwch yn lawrlwytho ac yn cofrestru ar gyfer ein ap Netpulse, Precor/Preva neu eGym yna byddwch yn cydsynio i gofrestru i rannu eich gwybodaeth gyda’r darparwr trydydd parti. Bydd hyn yn ddienw lle bynnag y bo modd a dim ond at ddibenion eich galluogi i ddefnyddio’r swyddogaeth o fewn yr ap/offer y bydd yn cael ei ddefnyddio. Bydd gennych y dewis yn eich proffil gyda’r darparwr trydydd parti i gadw eich data yn ‘breifat’ neu’n ‘gyhoeddus’.

1.4. Data talu. Efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth dalu yn ymwneud â chynhyrchion a gwasanaethau rydych chi’n eu prynu gennym a’ch aelodaeth (“data talu”). Gall y data talu gynnwys eich manylion cyswllt, manylion eich cerdyn a manylion y trafodiad. Gellir prosesu’r data talu at ddibenion gweinyddu’r taliad, am gyflenwi’r nwyddau a’r gwasanaethau a brynwyd, ac i gadw cofnodion priodol o’r taliadau hynny. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw cyflawni contract rhyngoch chi a ni a/neu gymryd camau, ar eich cais, i ymrwymo i gontract o’r fath, a’n buddiannau cyfreithlon, sef ein diddordeb mewn gweinyddu ein gwefan a’n busnes yn briodol.

Byddwn yn storio data rhif eich cyfrif banc a’ch cod didoli lle mae gennych fandad Debyd Uniongyrchol ar waith. Pan fydd y mandad Debyd Uniongyrchol yn gorffen byddwn yn dileu’r data hwn o’n systemau gweithredol o fewn 30 diwrnod gwaith. Rydym yn prosesu gwybodaeth cerdyn banc pan fyddwn yn cymryd taliad. Nid yw’r data hwn yn cael ei storio ar ein systemau ac mae’n cael ei brosesu ar Gerdyn Talu

Systemau bancio sy’n cydymffurfio â Safon Diogelu Data Diwydiant.

1.5. Data a rennir. Rydym yn cynnal gwasanaethau ar ran sefydliadau eraill megis Awdurdodau Lleol, GIG, Ysgolion, Grwpiau Comisiynu Clinigol, Adrannau’r Llywodraeth ac Ymddiriedolaethau.

Yn aml, caiff y gwasanaethau hyn eu rhedeg o dan gytundeb masnachfraint neu gontract. Gellir rhannu data gyda’r sefydliadau hyn ar lefel gryno ond nid ar lefel y gellir adnabod pobl yn bersonol. Ar gyfer ein gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd, gyda’ch caniatâd chi, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth y mae modd ei defnyddio i’ch adnabod â’ch gwasanaethau meddyg teulu a’r GIG. Byddwn hefyd yn rhannu eich data fel sy’n ofynnol gan system Olrhain y GIG. Mae hyn yn ofyniad gan y Llywodraeth yn y frwydr yn erbyn Covid-19 neu unrhyw glefyd heintus yn y dyfodol.

1.6. Ar ddiwedd contract gweithredu, os bydd y gwasanaeth yn cael ei redeg gan weithredwr arall, byddwn yn anfon eich manylion cyswllt, data aelodau / cwsmeriaid ymlaen at y gweithredwr newydd fel y gall barhau i ddarparu’r gwasanaeth i chi heb darfu arnoch. Gallwch wrthwynebu i ni anfon y data hwn drwy gysylltu â ni yn [email protected]

1.7. Bydd y sefydliadau hyn yn Rheolydd Data yn ei rinwedd ei hun, a lle maent yn prosesu eich data byddant yn rhoi gwybod i chi yn uniongyrchol neu drwy eu gwasanaethau megis gwefan am y data sydd ganddynt a pha brosesu y maent yn ei wneud.

EIN CYFLENWYR A’N CONTRACTWYR

1.8. Data cyflenwyr. Os ydych yn unig fasnachwr, mewn partneriaeth neu’n hunangyflogedig byddwn yn casglu data personol amdanoch fel eich defnydd o’ch enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, manylion cyflogaeth, cymwysterau, llun, Rhif YG, dyddiad geni a delweddau teledu cylch cyfyng (“data cyflenwyr”). Byddwn yn prosesu’r wybodaeth hon i sicrhau bod ein contract a’n perthynas â chi yn cael eu rheoli’n effeithlon (gallai hyn gynnwys at ddibenion data ariannol a phrisio, archwilio ac adennill dyledion), a’n bod yn prosesu unrhyw ohebiaeth gysylltiedig â chi yn gywir. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw at ddibenion cyflawni ein contract gyda chi, neu i gymryd camau ar eich cais cyn ymrwymo i gontract.

Rydym hefyd yn defnyddio eich data cyflenwr i ddeall perfformiad eich gwasanaeth a’ch sefydlogrwydd ariannol at ddibenion monitro cyflenwyr. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau dilys wrth reoli ein perthynas â chi a sicrhau ein bod yn gallu cynnal lefelau ansawdd ein gwasanaeth.

Gall y data cyflenwyr gynnwys eich cerdyn neu fanylion banc hefyd, yn ogystal â manylion unrhyw drafodiad yr ydym yn ei lunio gyda chi. Gellir prosesu’r data cyflenwyr hwn at ddibenion gweinyddu’r taliad, am gyflenwi’r nwyddau a’r gwasanaethau a brynwyd gennych, ac i gadw cofnodion priodol o’r taliadau hynny. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw cyflawni contract rhyngoch chi a ni a/neu gymryd camau, ar eich cais, i ymrwymo i gontract o’r fath, a’n buddiannau cyfreithlon, sef ein diddordeb mewn gweinyddu ein busnes yn briodol.

1.9. Data Pwynt Cyswllt. Os ydych yn cael eich cyflogi gan gyflenwr nwyddau, gwasanaethau neu ymgynghoriaeth sydd â threfniant cytundebol gyda Parkwood Leisure a’i is-gwmnïau ar gyfer darparu gwasanaethau o’r fath (y “prif gontractwr”), gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cymwysterau, llun, rhif YG, dyddiad geni, delweddau teledu cylch cyfyng neu fanylion cyflogaeth (“data pwynt cyswllt”) i’n galluogi i sicrhau’r canlynol:

  1. a) darparu manylion cyswllt cyflenwr ar gyfer ein gweithrediadau aml-safle;
  2. b) creu a chadw rhestrau rhanddeiliaid rheoli prosiectau;
  3. c) creu a chadw rhestrau cyswllt yn ôl y gofyn;
  4. ch) creu a chadw rhestr o gyflenwyr y gorffennol, rhai cyfredol a darpar gyflenwyr i’n galluogi i gysylltu â chi at ddibenion busnes.

Byddwn yn trin y prif gontractwr fel rheolydd unrhyw bwynt data cyswllt sy’n cael ei ddarparu i ni. Mae’n bosibl y byddwn yn cael data personol yn uniongyrchol gan y prif gontractwr o ran pwyntiau cyswllt o’r fath.

Byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol o’r fath y cyfeirir ato yn y paragraff 1.9 hwn yn unol â chyfarwyddiadau’r prif gontractwr yn unig, nid y pwynt cyswllt unigol, gan gynnwys rhannu’r holl ddata o’r fath gyda’r prif gontractwr.

Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau dilys wrth dderbyn cynhyrchion neu wasanaethau gan y prif gontractwr, ac wrth reoli a gweinyddu ein perthynas a’n contract gyda’r prif gontractwr.

1.10. Data a rennir. Gellir rhannu eich data â’r awdurdodau y mae Parkwood Leisure a’i is-gwmnïau a’i bartneriaid yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, er mwyn gweithredu a gweinyddu ein perthynas a’n contract gyda chi, datblygu ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, systemau a pherthnasau gyda chi, deall eich gofynion, canfod ac atal troseddu, adennill dyled a dangos cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau dilys wrth sicrhau ein bod yn derbyn lefelau uchel o wasanaeth gan ein cyflenwyr a’n contractwyr.

1.11. Data ymholiad. Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn unrhyw ymholiad y byddwch yn ei gyflwyno i ni ynglŷn â’ch gwasanaethau (“data ymholiad”). Gall unrhyw e-bost a anfonir atom, gan gynnwys unrhyw atodiadau, gael ei fonitro a’i ddefnyddio gennym am resymau diogelwch ac i fonitro cydymffurfiaeth â pholisi swyddfa. Gellir defnyddio prosesau monitro e-bost neu feddalwedd rhwystro hefyd. Mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau bod unrhyw e-bost rydych chi’n ei anfon atom o fewn ffiniau’r gyfraith. Gall data’r ymholiad gael ei brosesu neu ei storio at ddiben cyfathrebu â chi ynglŷn â’ch nwyddau a’ch gwasanaethau.

EIN CLEIENTIAID BUSNES

1.12. Data Pwynt Cyswllt. Os ydych yn cael eich cyflogi gan un o’n cleientiaid corfforaethol, sydd â threfniant cytundebol gyda Parkwood a’i is-gwmnïau ar gyfer darparu gwasanaethau (y “prif gontractwr”), gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth fel eich enw, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn, a’ch manylion cyflogaeth (“data pwynt cyswllt”) i’n galluogi i sicrhau’r canlynol:

  1. a) darparu gwasanaethau i chi yn unol â’r contract sydd gennym gyda’r prif gontractwr;
  2. b) cyfathrebu â chi ynghylch darparu gwasanaethau o’r fath;
  3. c) gwella’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu a sicrhau ein bod yn cynnal ein lefelau o ran gofal cleientiaid;
  4. ch) marchnata ein cynnyrch, gwasanaethau, deunydd hyrwyddo a chynigion i’r prif gontractwr;
  5. d) creu rhestrau cyswllt neu restrau rhanddeiliaid ar gyfer prosiectau neu weithgareddau penodol.

Byddwn yn trin y prif gontractwr fel rheolydd unrhyw bwynt data cyswllt sy’n cael ei ddarparu i ni. Mae’n bosibl y byddwn yn cael data personol yn uniongyrchol gan y prif gontractwr o ran pwyntiau cyswllt o’r fath.

Byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol o’r fath y cyfeirir ato yn y paragraff 1.11 hwn yn unol â chyfarwyddiadau’r prif gontractwr yn unig, nid y pwynt cyswllt unigol, gan gynnwys rhannu’r holl ddata o’r fath gyda’r prif gontractwr.

Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau dilys wrth gyflenwi cynhyrchion neu wasanaethau gan y prif gontractwr, wrth reoli a gweinyddu ein perthynas a’n contract gyda’r prif gontractwr, ac wrth farchnata ein cynhyrchion a’n gwasanaethau i’r prif gontractwr.

1.13. Data a rennir. Gellir rhannu eich data â’r awdurdodau y mae Parkwood Leisure a’i is-gwmnïau a’i bartneriaid yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, er mwyn gweithredu a gweinyddu ein gwasanaethau i chi, datblygu ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, systemau a pherthnasau gyda chi, deall eich gofynion, a dangos cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau dilys wrth sicrhau ein bod yn cynnal lefelau uchel o wasanaeth i’n haelodau, cleientiaid, a defnyddwyr terfynol eraill ein gwasanaethau.

CWYNION

1.14. Data cwyn. Pan fyddwn yn cael cwyn gan rywun rydym yn ffurfio ffeil sy’n cynnwys manylion y gŵyn. Fel arfer mae hyn yn cynnwys manylion yr achwynydd ac unrhyw unigolion eraill sy’n ymwneud â’r gŵyn (y “data cwyn”).

1.15. Dim ond i brosesu’r gŵyn ac i wirio lefel y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu neu sut mae contractau’n cael eu cyflawni y byddwn yn defnyddio’r data cwyn. Rydym yn llunio a chyhoeddi ystadegau sy’n dangos gwybodaeth fel nifer y cwynion a gawn, ond nid ar ffurf sy’n nodi pwy yw neb. Fel arfer mae’n rhaid i ni ddatgelu pwy yw’r achwynydd i bwy bynnag sy’n destun y gŵyn. Mae hyn yn anochel lle mae anghytuno ynghylch cywirdeb cofnod rhywun, er enghraifft. Os nad yw achwynydd am i wybodaeth sy’n nodi pwy ydyw gael ei datgelu, byddwn yn ceisio parchu hynny. Fodd bynnag, efallai na fydd modd delio â chwyn yn ddienw.

1.16. Yn yr un modd, lle cyflwynir ymholiadau i ni, byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth a gyflenwyd i ni i ddelio â’r ymholiad ac unrhyw faterion dilynol ac i wirio ar lefel y gwasanaeth a ddarparwn. Pan fyddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn rhywun, efallai y byddwn yn cyhoeddi pwy yw’r diffynnydd yn ein Hadroddiad Blynyddol neu rywle arall. Fel arfer nid ydym yn nodi pwy yw unrhyw achwynydd oni bai bod y manylion eisoes wedi’u cyhoeddi.

1.17. Byddwn yn cadw data cwynion sydd wedi’u cynnwys mewn ffeiliau cwynion yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y bydd gwybodaeth yn ymwneud â chwyn yn cael ei chadw am ddwy flynedd ar ôl ei chau. Bydd yn cael ei chadw mewn amgylchedd diogel a bydd mynediad ati yn cael ei gyfyngu yn ôl yr egwyddor ‘angen gwybod’.

1.18. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon wrth ymdrin â’r gŵyn yn briodol ac yn dryloyw.

DULLIAU PROSESU ERAILL Y GALLWN EU CYFLAWNI

1.19. Data gwefan. Efallai y byddwn yn prosesu data am eich defnydd o’n gwefan a’n gwasanaethau (“data gwefan”). Gall data’r wefan gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math o borwr a fersiwn, system weithredu, ffynhonnell atgyfeirio, hyd yr ymweliad, eich barn am dudalennau a llwybrau llywio gwefan, yn ogystal â gwybodaeth am amseru, amlder a phatrwm sut rydych yn defnyddio’r gwasanaeth. Ffynhonnell data’r wefan yw ein system olrhain dadansoddeg, Google Analytics. Cedwir y data a gesglir yn ddienw. Nid ydym yn gwneud, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud, unrhyw ymgais i ddarganfod pwy ydy’r rhai sy’n ymweld â’n gwefan.

Gellir prosesu data’r wefan hon at ddibenion dadansoddi’r defnydd o’r wefan a’r gwasanaethau. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon, sef monitro a gwella ein gwefan a’n gwasanaethau.

1.20. Data ymholiad. Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn unrhyw ymholiad y byddwch yn ei gyflwyno i ni ynglŷn â’n cynnyrch neu’n gwasanaethau (“data ymholiad”). Gellir prosesu data ymholiadau at ddibenion cynnig, marchnata a gwerthu cynhyrchion a/neu wasanaethau perthnasol i chi. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon o ran ymateb yn briodol i’ch ymholiad.

1.21. Data Newyddlen. Efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni at ddiben tanysgrifio i’n cylchlythyrau a’n datganiadau i’r wasg (“data newyddlen”). Gellir prosesu’r data hysbysu at ddibenion anfon newyddlenni atoch.

Lle rydych yn bwynt cyswllt i un o’n cwsmeriaid corfforaethol, y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon, sef marchnata cynhyrchion a gwasanaethau perthnasol i chi.

Os ydych chi’n aelod neu’n ddefnyddiwr terfynol ein gwasanaethau, y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw caniatâd.

1.22. Data gohebiaeth. Gallwn brosesu gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys neu sy’n ymwneud ag unrhyw ohebiaeth y byddwch yn ei hanfon atom (“data gohebiaeth”). Gall y data gohebiaeth gynnwys y deunydd cyfathrebu a’r metaddata sy’n gysylltiedig â’r deunydd cyfathrebu.

Bydd ein gwefan yn cynhyrchu’r metaddata sy’n gysylltiedig â’r deunydd cyfathrebu a wneir gan ddefnyddio ffurflenni cyswllt y wefan. Gellir prosesu’r data gohebiaeth at ddibenion cyfathrebu â chi a chadw cofnodion.

Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau cyfreithlon, sef gweinyddu ein gwefan a’n busnes a chyfathrebu â defnyddwyr yn briodol.

1.23. Data talu. Efallai y byddwn yn prosesu gwybodaeth dalu yn ymwneud â chynhyrchion a gwasanaethau rydych chi’n eu prynu gennym (“data talu”). Gall y data talu gynnwys eich manylion cyswllt, manylion eich cerdyn a manylion y trafodiad. Gellir prosesu’r data talu at ddibenion gweinyddu’r taliad, am gyflenwi’r nwyddau a’r gwasanaethau a brynwyd, ac i gadw cofnodion priodol o’r taliadau hynny. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw cyflawni contract rhyngoch chi a ni a/neu gymryd camau, ar eich cais, i ymrwymo i gontract o’r fath, a’n buddiannau cyfreithlon, sef ein diddordeb mewn gweinyddu ein gwefan a’n busnes yn briodol.

1.24. Gweithgareddau prosesu eraill. Yn ychwanegol at y dibenion penodol y gallwn brosesu eich data personol a nodir uchod, gallwn hefyd brosesu unrhyw un o’ch data personol pan fo angen prosesu o’r fath er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo, neu er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol neu fuddiannau hanfodol person naturiol arall.

1.3 Proffilio. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio proses broffilio awtomataidd i ddarparu gwasanaeth/profiad sydd wedi’i deilwra i bwnc y data. h.y. gall algorithmau arddangos cynnwys yr ydym yn credu sy’n berthnasol i’r defnyddiwr yn seiliedig ar broffilio awtomataidd.

  1. Darparu eich data personol i eraill.

2.1. Rhannu eich data gyda’n partneriaid. Gellir rhannu eich data â’r awdurdodau y mae Parkwood Leisure a’i is-gwmnïau a’i bartneriaid yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, er mwyn gweithredu ein busnes a gweinyddu a datblygu ein gwasanaethau, a dangos cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol. Mae’r broses rhannu data gyda’r rhai mewn partneriaeth ar gyfer ystadegau ar ddefnydd a demograffeg yn unig. Nid yw hyn yn clymu’r wybodaeth yn ôl atoch fel unigolyn. Y sail gyfreithiol ar gyfer y gweithgarwch prosesu hwn yw ein buddiannau dilys wrth sicrhau ein bod yn cynnal lefelau uchel o wasanaeth i’n haelodau, cleientiaid, a defnyddwyr terfynol eraill ein gwasanaethau.

2.2. Platfformau Cyfryngau Cymdeithasol. Rydym yn gweithredu’r tudalennau cyfryngau cymdeithasol canlynol gan gynnwys: Facebook. Twitter ac Instagram. Os byddwch yn ymuno ag un o’n tudalennau Cyfryngau Cymdeithasol, nodwch fod gan ddarparwr y platfformau cyfryngau cymdeithasol eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

2.3. I’n darparwyr gwasanaethau. Efallai y byddwn hefyd yn datgelu eich data personol i rai darparwyr gwasanaeth trydydd parti ag enw da, megis darparwyr gwasanaethau cwmwl a TG a chontractwyr eraill y mae’n ofynnol i’w gwasanaethau alluogi Parkwood Leisure a’i gwmnïau i ddarparu ei wasanaethau i gleientiaid.

2.4. Ein Hyswirwyr/Cynghorwyr Proffesiynol. Gallwn ddatgelu eich data personol i’n hyswirwyr a/neu gynghorwyr proffesiynol i’r graddau y mae’n rhesymol angenrheidiol at ddibenion cael a chynnal darpariaeth yswiriant, prosesu hawliadau yswiriant, rheoli risgiau, cael cyngor proffesiynol a rheoli anghydfodau cyfreithiol.

2.5. Lle rydym yn darparu eich data personol i unrhyw drydydd parti. Pan fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti, byddwn yn sicrhau bod y weithred brosesu hon yn cael ei ddiogelu gan fesurau diogelu priodol gan gynnwys cytundeb prosesu data addas gyda’r trydydd parti hwnnw.

2.6. Prif gontractwyr. Efallai y byddwn yn rhannu data personol â’r prif gontractwr fel y nodir ym mharagraffau 1.9 ac 1.11 uchod.

2.7. I gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol. Yn ogystal â’r datgeliadau penodol o ran y data personol y nodir uchod, gallwn hefyd ddatgelu eich data personol pan fo angen datgelu o’r fath er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw, neu er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol neu fuddiannau hanfodol unigolyn arall.

  1. Trosglwyddo eich data personol y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Pan fydd eich data personol yn cael ei drosglwyddo y tu allan i’r AEE, byddwn yn sicrhau naill ai (a) Bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi gwneud “penderfyniad digonolrwydd” o ran deddfau diogelu data’r wlad y mae’n cael ei drosglwyddo iddi, neu (b) ein bod wedi ymrwymo i gytundeb prosesu data addas gyda’r trydydd parti a leolir yn y wlad honno i sicrhau diogelwch digonol eich data. Ym mhob achos, bydd achosion trosglwyddo y tu allan i’r AEE yn cael eu gwarchod gan fesurau diogelu priodol.
  2. Cadw a dileu data personol.

4.1. Ni fydd data personol yr ydym yn ei brosesu at unrhyw ddiben neu ddibenion yn cael ei gadw am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol at y diben hwnnw neu’r dibenion hynny.

4.2. Oni bai ein bod yn cysylltu â chi ac yn cael eich caniatâd i ni gadw eich data personol am gyfnod hirach, byddwn yn cadw ac yn dileu eich data personol yn unol â’n cyfnod cadw.

4.3. Efallai y byddwn yn cadw eich data personol lle mae cadw o’r fath yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo, neu er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol neu fuddiannau hanfodol person naturiol arall.

  1. Diwygiadau.

5.1. Gallwn ddiweddaru’r polisi hwn o bryd i’w gilydd drwy gyhoeddi fersiwn newydd ar ein gwefan.

5.2. Dylech wirio’r dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau i’r polisi hwn.

5.3. Efallai y byddwn yn rhoi gwybod i chi am newidiadau i’r polisi hwn drwy e-bost.

  1. Eich hawliau.

6.1. Gallwch ein cyfarwyddo i roi unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch; bydd darparu gwybodaeth o’r fath yn amodol ar y canlynol:

  1. a) nad yw eich cais yn ddi-sail neu’n ormodol, ac os felly gall tâl fod yn berthnasol;
  2. b) cyflenwi tystiolaeth briodol o bwy ydych chi (at y diben hwn, fel arfer byddwn yn derbyn llungopi o’ch pasbort wedi’i ardystio gan gyfreithiwr neu fanc ynghyd â chopi gwreiddiol o fil cyfleustodau sy’n dangos eich cyfeiriad cyfredol).

6.2. Efallai y byddwn yn atal gwybodaeth bersonol yr ydych yn gofyn amdani i’r graddau a ganiateir yn ôl y gyfraith.

6.3. Gallwch roi cyfarwyddyd i ni ar unrhyw adeg i beidio â phrosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata.

6.4. Yn ymarferol, byddwch fel arfer naill ai’n cytuno’n benodol ymlaen llaw i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn rhoi cyfle i chi optio allan o ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata.

6.5. Eich hawl i gael mynediad at eich data. Mae gennych hawl i ofyn i ni gadarnhau a ydym yn prosesu eich data personol ai peidio ac, i gael mynediad at y data personol, ac unrhyw wybodaeth ychwanegol. Mae’r wybodaeth ychwanegol honno’n cynnwys y dibenion yr ydym yn prosesu eich data ar eu cyfer, y categorïau o ddata personol sydd gennym a derbynwyr y data personol hwnnw. Gallwch ofyn am gopi o’ch data personol; y modd mwyaf effeithlon i wneud hynny fyddai defnyddio Cais Mynediad Pwnc. Darperir y copi cyntaf yn rhad ac am ddim, ond gallwn godi ffi resymol am gopïau ychwanegol.

6.6. Eich hawl i gywiro. Os oes gennym unrhyw ddata personol anghywir amdanoch, mae gennych hawl i gael yr anghywirdebau hyn wedi’u cywiro. Lle bo angen at ddibenion prosesu, mae gennych hefyd yr hawl i gael unrhyw ddata personol anghyflawn amdanoch wedi’i gwblhau.

6.7. Eich hawl i ddileu. Mewn rhai amgylchiadau mae gennych hawl i gael data personol sydd gennym amdanoch wedi’i ddileu. Bydd hyn yn cael ei wneud heb oedi gormodol. Mae’r amgylchiadau hyn yn cynnwys y canlynol: nid yw’n angenrheidiol bellach i ni ddal data personol yng nghyswllt y dibenion y cawsant eu casglu’n wreiddiol neu fel arall eu prosesu; rydych yn tynnu eich caniatâd yn ôl i unrhyw brosesu sy’n gofyn am ganiatâd; mae’r prosesu at ddibenion marchnata uniongyrchol; ac mae’r data personol wedi cael ei brosesu’n anghyfreithlon. Fodd bynnag, mae rhai gwaharddiadau cyffredinol yn berthnasol i’r hawl i ddileu, gan gynnwys lle mae angen prosesu: i arfer hawl rhyddid mynegiant a gwybodaeth; i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol; neu i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol.

6.8. Eich hawl i gyfyngu ar brosesu. Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn wir ble: nad ydych yn credu bod y data personol sydd gennym amdanoch yn gywir; mae eich data’n cael ei brosesu’n anghyfreithlon, ond nid ydych am i’ch data gael ei ddileu; nid yw’n angenrheidiol mwyach i ni gadw eich data personol at ein dibenion prosesu, ond mae’n dal yn ofynnol i chi gael y data personol hwnnw yng nghyswllt hawliad cyfreithiol; ac rydych wedi gwrthwynebu prosesu, ac yn aros i’r gwrthwynebiad hwnnw gael ei ddilysu. Os cyfyngwyd ar y gweithgarwch prosesu am un o’r rhesymau hyn, efallai y byddwn yn parhau i storio eich data personol. Fodd bynnag, dim ond am resymau eraill y byddwn yn ei brosesu: gyda’ch caniatâd; yng nghyswllt hawliad cyfreithiol; dros ddiogelu hawliau person naturiol neu gyfreithiol arall; neu am resymau o ddiddordeb pwysig i’r cyhoedd.

6.9. Eich hawl i wrthwynebu prosesu. Gallwch wrthwynebu i ni brosesu neu broffilio eich data personol yn awtomataidd ar sail eich sefyllfa benodol, ond dim ond cyn belled â’n sail gyfreithiol ar gyfer prosesu neu broffilio awtomataidd yw ei bod yn angenrheidiol ar gyfer: cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd, neu wrth arfer unrhyw awdurdod swyddogol sydd wedi ei roi i ni; neu at ddibenion ein buddiannau cyfreithlon neu rai trydydd parti. Os byddwch yn gwrthwynebu, byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu neu broffilio eich gwybodaeth bersonol yn awtomataidd oni bai ein bod yn gallu: dangos seiliau cyfreithlon cymhellol ar gyfer y gweithgarwch prosesu, a bod y seiliau cyfreithlon hyn yn diystyru eich buddiannau, eich hawliau a’ch rhyddid; neu os yw’r prosesu yn cael ei wneud yng nghyswllt hawliad cyfreithiol.

6.10. Eich hawl i wrthwynebu marchnata uniongyrchol. Gallwch wrthwynebu i ni brosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Os byddwch yn gwrthwynebu, byddwn yn rhoi’r gorau i brosesu eich data personol at y diben hwn.

6.11. Eich hawl i wrthwynebu at ddibenion ystadegol. Gallwch wrthwynebu i ni brosesu neu broffilio eich data personol yn awtomataidd at ddibenion ystadegol ar sail sy’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol, oni bai bod y gweithgarwch prosesu neu broffilio awtomataidd yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a wneir am resymau budd y cyhoedd.

6.12. Prosesu Data Awtomataidd. I’r graddau mai’r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yw cydsyniad, a phan fo’r prosesu wedi’i awtomeiddio, mae gennych hawl i dderbyn eich data personol gennym mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac y mae modd ei ddarllen ar beiriant. Fodd bynnag, efallai na fydd gennych yr hawl hon petai’n cael effaith andwyol ar hawliau a rhyddid pobl eraill.

6.13. Cwyno wrth awdurdod goruchwylio. Os ydych yn credu bod ein gweithgarwch prosesu eich data personol yn amharu ar gyfreithiau diogelu data, gallwch gyflwyno cwyn gydag awdurdod goruchwylio sy’n gyfrifol am ddiogelu data. Gallwch wneud hyn yn aelod-wladwriaeth yr UE eich preswylfa arferol, eich man gwaith neu yn lle bynnag y digwyddodd y tor-cyfraith honedig.

6.14. Hawl i dynnu caniatâd yn ôl. I’r graddau y mae’r sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni i brosesu eich data personol yn cydsynio, mae gennych hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg. Ni fydd tynnu’n ôl yn effeithio ar gyfreithlonrwydd prosesu cyn tynnu’n ôl.

6.15. Ymarfer eich hawliau. Gallwch arfer unrhyw rai o’ch hawliau yng nghyswllt eich data personol drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i ni yn ychwanegol at y dulliau eraill a nodir uchod.

6.16. Data Pwynt Cyswllt. Ni fydd paragraffau 6.1 – 6.14 yn berthnasol i ddata a gafwyd neu a broseswyd gan Parkwood Leisure a’i is-gwmnïau yng nghyswllt pwyntiau cyswllt mewn cysylltiad â phrif gontractwr (fel y’i diffinnir ym mharagraffau 1.9 ac 1.11 uchod). O ran data o’r fath:

  1. Parkwood Leisure a phartneriaid data dibynadwy gan gynnwys:
  • Acteol
  • Legend
  • Xplor
  • CAP2
  • Spektrix
  • IO Studios
  • Momentum
  • Egym
  • Netpulse
  • Pace Print and Design
  • Groupmove Ltd
  • FareHarbor
  • Innovatise
  • FuseMetrix

yn gweithredu fel prosesydd y data hwnnw a’r prif gontractwr yw’r rheolwr;

  1. Dylai pwyntiau cyswllt gysylltu â’r prif gontractwr i arfer yr hawliau a nodir yn y paragraff 6 hwn.
  2. Cyfeiriadau IP a Chwcis.

7.1 Ffeiliau testun bach iawn sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur pan fyddwch chi’n ymweld â rhai gwefannau yw cwcis.

7.2 Rydym yn defnyddio cwcis i’ch helpu i nodi eich cyfrifiadur, gan gynnwys lle mae ar gael, eich cyfeiriad IP, y system weithredu a’r math o borwr, ar gyfer gweinyddu system fel y gallwn gadw’ch gweithgaredd yn ddiogel, teilwra eich profiad defnyddiwr a chofio eich dewisiadau. Data ystadegol yw hwn ac nid yw’n adnabod unrhyw unigolyn. Gallwch analluogi unrhyw gwcis sydd eisoes wedi’u storio ar eich cyfrifiadur neu glirio storfa eich porwr ond gall hyn arwain at golli unrhyw ddewisiadau rydych chi wedi’u gosod o’r blaen.

  1. Ein manylion

8.1. Gweithredir y wefan a’r meddalwedd hon o dan drwydded gan Parkwood Leisure Limited.

8.2. Rydym wedi cofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cofrestru 03232979, ac mae ein swyddfa gofrestredig yn The Stables, Duxbury Park, Duxbury Hall Rd, Chorley PR7 4AT.

8.3. Gallwch gysylltu â ni:

  1. a) drwy’r post, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a nodir uchod;
  2. b) defnyddio ffurflen gyswllt ein gwefan;
  3. c) dros y ffôn, ar y rhif cyswllt a gyhoeddir ar ein gwefan o dro i dro;
  4. c) ch) drwy e-bost, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a gyhoeddir ar ein gwefan o dro i dro.
  5. Swyddog Diogelu Data

Dyma fanylion cyswllt ein swyddog diogelu data: Glen Hall, y gellir cysylltu ag ef drwy e-bost: [email protected]