Neidio i lywio cynradd Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

ALLDAITH AFON MENAI – 2 DDIWRNOD

Manylion Cyflym

Person

£ 259.95

Darganfyddwch Ryfeddodau Arfordirol mewn Antur Caiac.

Mae’r daith hon yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n gymharol newydd i gaiacio môr ac sydd eisiau herio eu sgiliau ar antur gyffrous dan arweiniad ein hyfforddwyr caiacio profiadol.

Yn ystod y ddau ddiwrnod ein nod yw ymdrin â’r canlynol:

Bydd yr daith yn cychwyn ac yn gorffen yn y ganolfan a bydd yn cynnwys gwersylla gwyllt am 1 noson ar hyd Afon Menai.

Caiacio ar hyd Arfordir hardd Gogledd Cymru, gan edmygu ei arfordir a’i fywyd gwyllt ysblennydd.

Beth sydd wedi’i gynnwys
Bydd Plas Menai yn darparu’r holl ddillad amddiffynnol personol angenrheidiol gan gynnwys siwtiau gwlyb, dillad gwrth-ddŵr, cymhorthion arnofio a helmedau.

Beth nad yw wedi’i gynnwys
Diodydd poeth a bwyd drwy gydol y cwrs

Uchafbwyntiau
Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar gyda chi bob cam o’r ffordd, gan gynnig cyfarwyddyd clir, arweiniad ac anogaeth.

Manylion cofrestru
Cyrhaeddwch 15 munud cyn amser dechrau’r cwrs
Beth i ddod gyda chi

  • Dillad nofio a thywel
  • Esgidiau ar gyfer mynd ar y dŵr (esgidiau caeedig, dim fflip fflops na chrocs)
  • Sanau sy’n gorchuddio eich fferau
  • Bwyd (gall Plas Menai ddarparu bwyd os oes angen, rhaid cael gwybod ymlaen llaw)
  • Torch Pen
  • Sach Gysgu
  • Mat Cysgu
  • Dillad cynnes a thermals
  • Sbectol Haul ac Eli Haul
  • Cyllell a Ffyrc
  • Cwpan/Mwg na ellir ei dorri
  • Welingtons neu esgidiau sbar
  • Weips a toilet rol
  • Rhwyd ‘midges’
  • Cyllell fach
  • Tanwyr Tafladwy (y botwm gwthio, yn hytrach na rholer)

Gofynion arbennig
Mae’n ddefnyddiol os ydych chi wedi padlo o’r blaen a bod gennych chi rai sgiliau trin cychod sylfaenol cyn cychwyn ar y daith hon.

Cyn unrhyw un o’n halldeithiau, rydym yn argymell eich bod chi’n ystyried ein Cyflwyniad i Sgiliau Alldaith 2 ddiwrnod i ddysgu’r sgiliau a’r offer y bydd eu hangen arnoch i wneud taith caiac môr dros nos fel hon.

Ychwanegion
– Llety ar gael fel ychwanegiad