Manylion Cyflym
Person
£ 559.95
Dechreuwch Caiacio Mor Yn Plas Menai
Yn ystod y 5 diwrnod, rydym yn gobeithio rhoi sylw i’r canlynol:
Bydd amser yn cael ei dreulio yn eich cyflwyno i sgiliau trin cychod sylfaenol a sgiliau morwriaeth ond byddwn hefyd yn eich cyflwyno i ffactorau eraill megis cynllunio taith, ystyriaethau llanw a thywydd, sylwi ar fywyd gwyllt a theithio, i gyd gyda’r nod o roi’r sgiliau sylfaenol, hyder i chi, a gwybodaeth caiacio, i’ch galluogi i fynd ar deithiau byr ac archwilio’r arfordir yn ddiogel o safbwynt newydd.
Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar gyda chi bob cam o’r ffordd, gan gynnig cyfarwyddyd, arweiniad ac anogaeth glir.
Beth sydd wedi’i gynnwys
Bydd Plas Menai yn darparu’r holl ddillad amddiffynnol personol angenrheidiol gan gynnwys siwtiau gwlyb, dillad gwrth-ddŵr, cymhorthion arnofio a helmedau.
Beth nad yw wedi’i gynnwys
Diodydd poeth a bwyd drwy gydol y cwrs
Uchafbwyntiau
Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar gyda chi bob cam o’r ffordd, gan gynnig cyfarwyddyd clir, arweiniad ac anogaeth.
Manylion cofrestru
Cyrhaeddwch 15 munud cyn amser dechrau’r cwrs
Beth i’w ddodd gyda chi
– Gwisgoedd nofio a thywel
– Esgidiau ar gyfer ar y dŵr (bysedd traed caeedig, gyda gwadn gafaelgar, dim fflip-fflops na crocs)
– Sanau sy’n gorchuddio’ch fferau
– 50c ar gyfer locer
Ychwanegion
– Llety ar gael fel ychwanegiad