Neidio i lywio cynradd Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

DARGANFOD CAIACIO MÔR – CYFLWYNIAD SYLFAENOL – 2 DDIWRNOD

Manylion Cyflym

Person

£ 259.95

Gydag amser cyfyngedig, bydd y cwrs 2 ddiwrnod hwn yn canolbwyntio’n bennaf ar ddarparu cyflwyniad sylfaenol i gaiacio môr.

 

Yn ystod y 2 ddiwrnod, rydym yn gobeithio rhoi sylw i’r canlynol:

Byddwch yn cwrdd â’ch hyfforddwr lle cewch eich cyflwyno i’r cwrs a’r cynllun ar gyfer y ddau ddiwrnod sydd i ddod. Yna byddwch yn mynd i’n storfa caiacau i ddewis eich caiac a’i osod, fel ei fod yn eich ffitio’n gyfforddus.

Bydd amser ar y dŵr yn cael ei dreulio yn eich cyflwyno i strôc padlo sylfaenol a sgiliau diogelwch ac achub. Erbyn diwedd y 2 ddiwrnod dylech fod yn gyfforddus yn padlo ymlaen a meddu ar y sgiliau sylfaenol a’r ddealltwriaeth i ddechrau cynllunio taith fer mewn amodau tawel.

Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar gyda chi bob cam o’r ffordd, gan gynnig cyfarwyddyd, arweiniad ac anogaeth glir.

Beth sydd wedi’i gynnwys

Bydd Plas Menai yn darparu’r holl ddillad amddiffynnol personol angenrheidiol gan gynnwys siwtiau gwlyb, dillad gwrth-ddŵr, cymhorthion arnofio a helmedau.

Beth nad yw wedi’i gynnwys
Diodydd poeth a bwyd drwy gydol y cwrs
Uchafbwyntiau
Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar gyda chi bob cam o’r ffordd, gan gynnig cyfarwyddyd clir, arweiniad ac anogaeth.

 

Manylion cofrestru
Cyrhaeddwch 15 munud cyn amser dechrau’r cwrs

Beth i’w ddodd gyda chi
– Gwisgoedd nofio a thywel
– Esgidiau ar gyfer ar y dŵr (bysedd traed caeedig, gyda gwadn gafaelgar, dim fflip-fflops na crocs)
– Sanau sy’n gorchuddio’ch fferau
– 50c ar gyfer locer

Ychwanegion
– Llety ar gael fel ychwanegiad