Neidio i lywio cynradd Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

GWELLA EICH CAIACIO MÔR – DILYNIAD CYFFREDINOL (GWELLA) – 5 DIWRNOD

Manylion Cyflym

Person

£ 559.95

Archwiliwch Ogledd Cymru mewn Caiac Môr!

Yn ystod y pum niwrnod ein nod yw ymdrin â’r canlynol:

Nid oes agenda sefydlog ar gyfer yr wythnos, ond byddwch yn cael cyfle i badlo mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae cyrsiau wedi’u teilwra i’ch anghenion a’ch dyheadau unigol.

Mae arfordir Gogledd Cymru ac Ynys Môn yn enwog am fod â rhai o’r lleoliadau caiacio môr gorau yn y byd, sy’n golygu bod digon o opsiynau bob amser beth bynnag fo’r tywydd.

Beth sydd’n gynnwys
Bydd Plas Menai yn darparu’r holl ddillad amddiffynnol personol angenrheidiol gan gynnwys siwtiau gwlyb, dillad gwrth-ddŵr, cymhorthion arnofio a helmedau.

Beth nad yw wedi’i gynnwys
Diodydd poeth a bwyd drwy gydol y cwrs

Uchafbwyntiau
Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar gyda chi bob cam o’r ffordd, gan gynnig cyfarwyddyd clir, arweiniad ac anogaeth.

Manylion cofrestru
Cyrhaeddwch 15 munud cyn amser dechrau’r cwrs

Beth i’w ddod gyda chi

– Gwisgoedd nofio a thywel
– Esgidiau ar gyfer ar y dŵr (bysedd traed caeedig, gyda gwadn gafaelgar, dim fflip-fflops na crocs)
– Sanau sy’n gorchuddio’ch fferau
– 50c ar gyfer locer

Gofynion arbennig
Dylech fod yn gyfforddus yn padlo ymlaen ac yn symud caiac môr mewn amodau cymedrol a gallu gwneud troadau ymylol.

Ychwanegion
– Llety ar gael fel ychwanegiad