Neidio i lywio cynradd Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

DATBLYGU EICH CAIACIO MÔR – CYNNYDD CYFFREDINOL – 5 DIWRNOD

Manylion Cyflym

Person

£ 259.95

Gwella eich sigilau padlo!

Nid oes agenda sefydlog ar gyfer yr wythnos, ond fe gewch gyfle i badlo mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae cyrsiau wedi’u teilwra i’ch anghenion unigol.

Mae arfordir Gogledd Cymru ac Ynys Môn yn enwog fel rhai o’r lleoliadau caiacio môr gorau yn y byd, sy’n golygu bod digonedd o opsiynau bob amser beth bynnag fo’r tywydd.

Bydd eich sgiliau padlo’n datblygu wrth i ni fynd â chi i ddyfroedd mwy heriol, gyda’r opsiwn o’ch cyflwyno i rasys llanw bach a gorlifau

Yn ogystal, byddwn yn ymdrin â mordwyo arfordirol, llanw a chynllunio teithiau. Erbyn diwedd y 5 diwrnod, dylech fod yn barod i fynd ar deithiau arfordirol mwy heriol. Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar gyda chi bob cam o’r ffordd, gan gynnig cyfarwyddyd, arweiniad ac anogaeth glir.

Beth sydd wedi’i gynnwys

Bydd Plas Menai yn darparu’r holl ddillad amddiffynnol personol angenrheidiol gan gynnwys siwtiau gwlyb, dillad gwrth-ddŵr, cymhorthion arnofio a helmedau.

Beth nad yw wedi’i gynnwys

Diodydd poeth a bwyd drwy gydol y cwrs
Uchafbwyntiau
Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar gyda chi bob cam o’r ffordd, gan gynnig cyfarwyddyd clir, arweiniad ac anogaeth.

 

Manylion cofrestru
Cyrhaeddwch 15 munud cyn amser dechrau’r cwrs

Beth i’w ddodd gyda chi

– Gwisgoedd nofio a thywel
– Esgidiau ar gyfer ar y dŵr (bysedd traed caeedig, gyda gwadn gafaelgar, dim fflip-fflops na crocs)
– Sanau sy’n gorchuddio’ch fferau
– 50c ar gyfer locer

Ychwanegion

– Llety ar gael fel ychwanegiad

Sylwad:
Dylech fod yn gyfforddus yn padlo ymlaen a symud caiac môr mewn amodau cymedrol a gallu gwneud troeon ymylol.