Wedi’i sefydlu i gefnogi gwaddol cenedlaethol yn dilyn y Gemau Olympaidd, mae Legacy Leisure yn ceisio addysgu, ysbrydoli a chefnogi gweithgarwch corfforol, gwella bywydau ein noddwyr a galluogi newidiadau cadarnhaol hirdymor i ffordd o fyw. Mae Legacy Leisure yn angerddol am wella iechyd a lles ein noddwyr, ac yn anelu at gynnig ystod amrywiol o weithgareddau corfforol a diwylliannol a fydd yn ymgysylltu ac yn bywiogi cymunedau, boed hynny trwy chwaraeon, y celfyddydau neu weithgareddau eraill.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.legacyleisure.org.uk neu www.plasmenai.wales