DARLLENWCH YR AMODAU A GANLYN YN OFALUS CYN CWBLHAU EICH ARCHEB
- Dehongli
1.1 Bydd y diffiniadau a ganlyn a’r rheolau dehongli’n berthnasol yn yr amodau hyn: Ystyr “Canolfan” yw Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru Plas Menai; ym Mhlas Menai, Llanfaerisgaer, Caernarfon, Gwynedd LL55 1UE; Ystyr “Amodau” yw’r telerau a’r amodau hyn ar gyfer darparu Gwasanaethau; Ystyr “Cytundeb” yw cytundeb rhwng Legacy Leisure Limited (rhif cwmni 08361324 rhif elusen gofrestredig 115240) y mae ei swyddfa gofrestredig yn 5 Deansway, Caerwrangon WR1 5JG (‘Gweithredwr’ y Ganolfan) a’r Cwsmer ar
gyfer darparu Gwasanaethau, sy’n cynnwys cydnabyddiaeth archebu ysgrifenedig y Gweithredwr a’r Amodau hyn Ystyr “Cwsmer” yw unrhyw berson (gan gynnwys unrhyw gymdeithas, corff cyhoeddus, cwmni, busnes neu endid cyfreithiol arall) sy’n gwneud archeb neu bryniant neu y mae’r Gweithredwr yn darparu Gwasanaeth iddo, gan gynnwys rhiant neu warcheidwad cyfreithiol unrhyw blentyn dan 18 oed y darperir Gwasanaeth iddo; ac
Ystyr “Gwasanaeth” yw unrhyw gwrs, gwasanaeth neu gyfleuster a gynigir gan y Gweithredwr i’r Cwsmer.
1.2 Os yw’r Amodau’n cyfeirio at “Yr ydym ni, Ni, neu Ein”, bydd hyn yn golygu’r Gweithredwr (ynghyd â’i chyflogeion, ei hasiantau a’i chontractwyr). Os yw’r Amodau’n cyfeirio at “Chi, Eich, neu Chi Eich Hun”, bydd hyn yn golygu’r Cwsmer .
1.3 Mae’r penawdau yn yr Amodau hyn er cyfleustra yn unig ac ni fyddant yn effeithio ar eu perthnasedd.
1.4 Wrth gyfeirio at gyfraith, cyfeirir ati fel y mae mewn grym ar y pryd, gan roi ystyriaeth i unrhyw ddiwygiad, estyniad, defnydd neu ailgread ac mae’n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth isradd mewn grym ar y pryd yn berthnasol iddi.
1.5 Mae unrhyw gyfeiriad at “ysgrifennu” neu “ysgrifenedig” yn cynnwys e-bost.
- Defnyddio telerau.
2.1 Yr Amodau hyn yw’r unig Amodau y mae’r Gweithredwr yn fodlon eu defnyddio wrth ddelio gyda’r Cwsmer. Bydd yr Amodau hyn yn cael eu cynnwys yn y Cytundeb gan eithrio’n llwyr unrhyw delerau ac amodau eraill (yn cynnwys unrhyw delerau ac amodau y mae’r Cwsmer yn awgrymu eu cynnwys dan unrhyw archeb brynu, cadarnhad o archeb, manyleb neu unrhyw ddogfen arall).
2.2 Bydd yr Amodau hyn uwchlaw unrhyw delerau anghyson a gymeradwyir mewn, a gyflwynir gyda, a gynhwysir yn neu a gyfeirir atynt mewn archeb brynu, cadarnhad o archeb, manyleb neu unrhyw ddogfen neu ddull cyfathrebu arall a dderbynnir gan y Cwsmer neu a awgrymir gan gyfraith, arferion masnachu, arferion eraill neu gyfryngau trafod.
2.3 Mae’r Cwsmer yn derbyn dyfyn-bris am Wasanaethau gan y Gweithredwr drwy gyflwyno archeb (boed ar ffurflen ar-lein neu yn ysgrifenedig neu ar lafar dros y ffôn neu wyneb yn wyneb), yn cyfateb i gynnig gan y Cwsmer i brynu’r Gwasanaethau y manylir arnynt yn yr Amodau hyn. Ni dderbynnir unrhyw gynnig a wneir i’r Cwsmer gan y Gweithredwr ar wahân i:
2.3.1 drwy gydnabyddiaeth ysgrifenedig a gyhoeddir ac a weithredir gan y Gweithredwr; neu
2.3.2 (os yn gynharach) drwy i’r Gweithredwr ddechrau darparu’r Gwasanaethau pryd bydd Cytundeb yn cael ei sefydlu.
- Archebu
3.1 Yn ddarostyngedig i amod 4.5 isod, gall y Cwsmer wneud archeb gyda’r Gweithredwr dros y ffôn, ar e-bost neu ar-lein drwy ein gwefan. Sylwer na ellir archebu llefydd dros dro
(ac eithrio pan fo’r archeb yn cael ei hystyried gan y Gweithredwr fel archeb grŵp o dan amod 4.5 isod).
3.2 I’ch helpu i gael hyd i’r cwrs priodol, darllenwch ddisgrifiad pob cwrs yn ofalus. Unwaith y byddwch wedi dewis eich cwrs a’r dyddiadau ac wedi darllen yr amodau archebu, gwnewch eich archeb gyda’r taliad priodol.
3.3 Sylwer na allwn roi telerau credyd i unigolion.
- Talu
4.1 Gall ffioedd a godir gan y Gweithredwr ar gyfer Gwasanaethau fod wedi’u heithrio o TAW neu’n ddarostyngedig i TAW yn unol â’r gyfradd berthnasol, fel y cadarnheir gan y Gweithredwr. Ni all y Gweithredwr gadarnhau na chadw archebion am Wasanaethau nes ein bod wedi derbyn y taliad priodol isod (a TAW arno, os yw hynny’n berthnasol).
4.2 Y cardiau credyd a debyd a dderbynnir yw: Visa, Delta, MasterCard, Amex, Delta, Maestro, Electron. Archebion Unigol
4.3 Ar gyfer pob archeb i unigolion neu grwpiau bychain ar gyfer Gwasanaethau sydd ar gael i’w harchebu ar-lein drwy wefan y Ganolfan, rhaid talu’n llawn amdanynt wrth archebu. Mae dau ddeg pump y cant (25%) o’r ffi ar gyfer y Gwasanaethau yn flaendal na ellir ei ad-dalu.
4.4 Ceidw’r Gweithredwr yr hawl i ganslo unrhyw archeb am Wasanaethau ar unrhyw
adeg drwy anfon hysbysiad ysgrifenedig at y Cwsmer heb roi rhybudd ymlaen llaw, os na
dderbynnir y taliad llawn yn unol ag amod 4.3. Archebion Grŵp
4.5 Nid yw’r Gweithredwr yn derbyn archebion grŵp (er enghraifft, grwpiau corfforaethol, ysgol neu grwpiau mawr eraill) am rai Gwasanaethau penodol ar-lein drwy gyfrwng ei gwefan. Ni ellir cadw’r archebion grŵp hyn ac ni fyddant yn cael eu cadarnhau gan y Gweithredwr nes bod y Gweithredwr yn derbyn y blaendal perthnasol na ellir ei ad-dalu o dan Amod 4.6 neu 4.7 isod (neu’r ffi lawn o dan amod 4.8 isod). Ar ôl i’r Gweithredwr dderbyn y blaendal perthnasol (neu’r ffi lawn o dan amod 4.8 isod), bydd y Gweithredwr yn anfon cydnabyddiaeth ysgrifenedig o dan amod 2.3.1 isod.
4.6 Ar gyfer archeb grŵp a wneir o leiaf chwe (6) wythnos cyn dechrau’r cwrs, rhaid i’r
Cwsmer dalu dau ddeg pump y cant (25%) o’r ffi lawn drwy gyfrwng blaendal na ellir ei ad-
dalu pan fydd yr archeb grŵp yn cael ei derbyn gan y Gweithredwr. Rhaid i’r Cwsmer dalu’r balans sy’n weddill o’r ffi lawn o leiaf chwe (6) wythnos cyn dechrau’r cwrs.
4.7 Ar gyfer archeb grŵp a wneir lai na chwe (6) wythnos cyn dechrau’r cwrs, rhaid i’r Cwsmer dalu’r ffi lawn ar unwaith ar ôl cyflwyno’r archeb grŵp a’i derbyn gan y Gweithredwr.
4.8 Ar gyfer archeb grŵp a wneir lai na thair (3) wythnos cyn dechrau’r cwrs, rhaid i’r
Cwsmer dalu’r ffi lawn ar unwaith ar ôl cyflwyno’r archeb grŵp a’i derbyn gan y Gweithredwr.
4.9 Os na thelir ffi lawn archeb grŵp ar amser o dan amod 4.6 neu 4.7 neu 4.8 uchod, bydd
gan y Gweithredwr hawl i drin yr archeb grŵp fel pe bai wedi cael ei chanslo gan y Cwsmer.
4.10 Rhaid i’r Gweithredwr gytuno, yn ysgrifenedig (yn unol â disgresiwn y Ganolfan yn
unig), i unrhyw amrywiad i nifer y rhai sy’n bresennol yn yr archeb grŵp, a gall hynny arwain at ffioedd ychwanegol.
- Diwygio Archebion gan y Cwsmer
5.1 Gellir newid y Cwsmer am unigolyn arall a enwir neu grŵp ar yr amod y rhoddir o leiaf
dwy (2) wythnos o rybudd i’r Gweithredwr a bod y cwsmer newydd yn bodloni meini prawf y cwrs. Mae’n rhaid i’r Gweithredwr gytuno i unrhyw newid o’r fath a bydd pob newid o’r fath yn arwain at ffi weinyddol o bum punt ar hugain (£25.00) bob tro.
5.2 Gall y Cwsmer wneud cais ysgrifenedig am newid cwrs neu ddyddiad(au) cwrs, ar yr
amod bod yr archeb wreiddiol wedi’i gwneud ddim llai nag wyth (8) wythnos cyn dechrau’r cwrs. Mympwy llwyr y Gweithredwr fydd yn penderfynu a dderbynnir newid o’r fath ai peidio. Rhaid i unrhyw newid o’r fath fod ar gyfer cwrs a dyddiad(au) yn ystod y cyfnod canlynol o
12 mis sy’n ymddangos yn ein llyfryn neu ar ein gwefan (www.plasmenai.co.uk) a bydd y Cwsmer yn atebol am dalu unrhyw gynnydd perthnasol yn ffi’r cwrs neu’r llety. Ceir ffi weinyddol o bum punt ar hugain (£25.00) am bob cwrs neu ddyddiad(au) a newidir.
5.3 Os bydd Cwsmer yn gofyn am newid cwrs neu ddyddiad(au) cwrs o fewn chwe (6) wythnos i ddechrau’r cwrs hwnnw, bydd cais o’r fath yn cael sylw yn unol ag amod 6 (Canslo).
- Canslo
6.1 Y Cwsmer yn Canslo
6.1.1 Rhaid i’r Cwsmer ganslo unrhyw archeb (ac eithrio dan amod 4.9 uchod) yn ysgrifenedig a rhaid i hynny gael ei gydnabod gan y Gweithredwr. Byddwn yn sicrhau bod y ffurflen ganslo safonol ar gael ar y wefan. Mae posib i chi ddefnyddio’r ffurflen hon, ond nid yw hynny’n orfodol.
6.1.2 Os bydd y Cwsmer yn canslo, bydd ffi ganslo’n ddyledus i’r Gweithredwr, fel y nodir isod:
– nid oes modd ad-dalu’r blaendal.
– chwe (6) wythnos neu fwy cyn dechrau’r cwrs / digwyddiad: y blaendal yn unig yn daladwy;
– chwe (6) wythnos neu lai cyn dechrau’r cwrs / digwyddiad: cant y cant (100%) o gyfanswm
ffi eich cwrs yn cael ei gadw gan y Gweithredwr (oni bai ein bod yn gallu ailosod ny llefydd neu liniaru ein colled); a
– cedwir cant y cant (100%) o ffi’r cwrs os byddwch yn canslo wedi dyddiad dechrau eich
cwrs.
6.2 Y Gweithredwr yn Canslo
6.2.1 Bydd y Gweithredwr yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y Gwasanaeth
yn cael ei gynnal ac yn unol â’ch archeb. Fodd bynnag, ceidw’r Gweithredwr yr hawl i ganslo unrhyw archeb heb unrhyw rybudd ymlaen llaw ac ar unrhyw adeg os yw’r Gweithredwr yn cael ei hatal rhag darparu Gwasanaeth oherwydd Amgylchiadau y Tu Hwnt I’n Rheolaeth (fel y disgrifir yng Nghymal 16) neu os ydym yn credu ar sail resymol bod canslo o’r fath yn angenrheidiol oherwydd amodau anaddas.
6.2.2 Ceidw’r Gweithredwr yr hawl i ganslo cwrs gyda dim llai na phedwar diwrnod ar ddeg (14) o rybudd os cred y Gweithredwr, ar sail resymol, nad oes digon o niferoedd wedi cofrestru ar gyfer cynnal y cwrs.
6.2.3 Os bydd y Gweithredwr yn canslo cwrs cyn ei ddechrau, byddwch yn cael cynnig yr
opsiynau a ganlyn:
– ad-daliad llawn o’r ffi a dalwyd am y cwrs; neu
– cwrs arall ar yr un dyddiad neu gyfres arall o ddyddiadau.
6.2.4 Os bydd y Gweithredwr yn canslo cwrs ar ôl ei ddechrau, byddwch yn cael cynnig
yr opsiynau a ganlyn:
– ad-daliad rhannol i’w gyfrif a’i rannu ar sail pro-rata; neu
– balans y cwrs i gael ei ddarparu ar ddyddiad diweddarach. Gofynnir i chi gadarnhau’r opsiwn rydych chi wedi’i ddewis ac efallai y bydd angen hyn yn ysgrifenedig. Rydym yn ceisio prosesu pob ad-daliad o fewn 14 diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn cadarnhad gennych chi.
- Diogelwch – TYNNIR SYLW’R CWSMER YN ARBENNIG AT DDARPARIAETHAU’R AMOD HWN
- Yn ychwanegol at bleser a dysgu sgiliau newydd, mae diogelwch yn hollbwysig yn holl
gyrsiau a gweithgareddau’r Gweithredwr. Wrth reswm, mae chwaraeon dŵr a gweithgareddau antur yn beryglus o ran eu natur ac mae’n rhaid i’r cyfranogwyr a’r rhieni
neu eu gwarcheidwaid dderbyn y ceir rhyw faint o risg ac y bydd ambell glais neu friw bach yn anochel wrth fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau cyflym. Rydym yn cymryd pob cam ymarferol rhesymol i reoli diogelwch, gan sicrhau ein bod yn cynnal ac yn darparu systemau gwaith diogel, asesiadau risg, staff gyda hyfforddiant a chymwysterau priodol, offer gwarchodol a diogelwch, a pholisïau a gweithdrefnau a adolygir yn rheolaidd. Drwy wneud hynny, rydym yn cadw’r hawl i addasu neu ganslo gweithgaredd os ydym yn
teimlo nad oes modd rheoli’r peryglon.
- Iechyd
8.1 Mae’n rhaid i’r Cwsmeriaid sy’n cymryd rhan yn y cyrsiau a gynigir yn y Ganolfan
ddisgwyl cymryd rhan mewn gweithgareddau anturus neu egnïol. Mae’n rhaid i’r
Cwsmeriaid fod yn gyffredinol iach a’u bodloni eu hunain eu bod yn gallu cyflawni’r gweithgaredd o fewn eu galluoedd.
8.2 Rhaid i’r Cwsmer lenwi a chyflwyno datganiad iechyd i’r Gweithredwr fel rhan o’r broses archebu. Rhaid i’r Cwsmer sicrhau bod y Gweithredwr yn ymwybodol o unrhyw anaf a / neu salwch sydd ganddo a hefyd bydd yn sicrhau bod tîm archebu’r Gweithredwr yn dod i wybod am unrhyw anaf neu salwch sy’n digwydd rhwng dyddiad llenwi’r datganiad iechyd gan y Cwsmer a dyddiad dechrau’r cwrs.
8.3 Ceidw’r Gweithredwr yr hawl i wrthod archeb ar sail feddygol os credir y bydd cyflwr meddygol yn amharu ar ddiogelwch a llyfnder cwrs neu os nad yw cyflyrau meddygol wedi’u datgan yn briodol.
- Gofynion Mynediad neu Ddeiet Arbennig. Dylid rhoi gwybod am unrhyw ofynion mynediad neu ddeiet arbennig sydd gan y Cwsmer i’r Gweithredwr wrth archebu. Bydd y Gweithredwr yn gwneud pob ymdrech resymol i fodloni’r gofynion hyn.
- Cwynion
10.1 Os caiff y Cwsmer broblem neu os cyfyd mater perthnasol i’r Gwasanaethau a ddarperir gan y Gweithredwr, bydd y Gweithredwr yn ceisio datrys problem neu fater o’r fath
cyn gynted ag y bo modd. Os na fydd modd datrys y broblem neu’r mater, bydd raid i’r
Cwsmer roi gwybod amdano i hyfforddwr y cwrs perthnasol neu yn nerbynfa’r Ganolfan.
10.2 Os na chaiff y Cwsmer ymateb boddhaol wedi’r digwyddiadau a nodir yn amod 11.1, gall y Cwsmer symud y mater yn ei flaen drwy’r broses gwynion at dîm rheoli’r Gweithredwr, a bydd y manylion yn cael eu darparu ar gais.
10.3 Os na chaiff cwyn y Cwsmer ei datrys yn foddhaol yn unol ag amodau 10.1 a 10.2,
ysgrifennwch at: “Y Pennaeth Gweithrediadau – Plas Menai, Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1UE”.
- Ymddygiad Afreolus
11.1 Mae’n ofynnol i’r Cwsmer ystyried ei hun a phobl eraill. Os bydd y Cwsmer, ym marn
resymol y Gweithredwr, yn ymddwyn mewn ffordd sy’n achosi neu’n debygol o achosi
perygl, anesmwythyd neu ofid iddo ef ei hun ac unrhyw drydydd parti, neu ddifrodi neu darfu
neu ymddwyn mewn unrhyw ffordd arall afreolus neu wrthgymdeithasol (“Ymddygiad
Afreolus”), mae gan y Gweithredwr hawl, heb rybudd ysgrifenedig ymlaen llaw, i derfynu arhosiad y Cwsmer / ei ddefnydd o’r cyfleusterau neu Wasanaethau eraill. Bydd yn ofynnol
i’r bobl hyn adael y Ganolfan yn brydlon ac ni roddir unrhyw ad-daliad ac ni fydd y Gweithredwr yn talu unrhyw gostau neu dreuliau fydd y Cwsmer yn gorfod eu talu o ganlyniad i derfynu’r arhosiad.
11.2 Mae’r Gweithredwr yn gweithredu polisi dim goddefgarwch tuag at ddefnyddio
sylweddau anghyfreithlon neu fod â sylweddau anghyfreithlon yn eich meddiant, neu’r hyn a
elwir yn “anterth cyfreithlon (“legal highs”) sy’n cynnwys sylweddau seicoweithredol. Mae
defnydd neu feddiant o unrhyw rai ohonynt gan Gwsmer yn cael ei ystyried fel Ymddygiad Afreolus o dan amod 11.
11.3 Bydd y Cwsmer yn atebol am unrhyw ddifrod a achosir neu golled a ddioddefir gan y
Gweithredwr o ganlyniad i Ymddygiad Afreolus y Cwsmer, gan gynnwys i unrhyw drydydd parti, fel cyd-westeion. Mae’r Cwsmer yn cytuno i indemnio’r Gweithredwr a’i gydnabod yn ddiniwed mewn unrhyw hawliadau mewn perthynas ag unrhyw golledion neu ddifrod o’r fath.
- Cyfyngiadau Atebolrwydd – TYNNIR SYLW’R CWSMER YN ARBENNIG AT
DDARPARIAETHAU’R AMOD HWN
12.1 Mae Amod 12 yn datgan atebolrwydd ariannol llawn y Gweithredwr (yn cynnwys
unrhyw atebolrwydd am weithredoedd neu ddiffyg ei gyflogeion, ei asiantau a’i is- gontractwyr) i’r Cwsmer mewn perthynas â’r canlynol:
12.1.1 torri’r Cytundeb mewn unrhyw ffordd;
12.1.2 unrhyw ddefnydd a wneir gan y Cwsmer o’r Gwasanaethau;
12.1.3 unrhyw gynrychiolaeth, datganiad neu weithred neu ddiffyg trofaus (yn cynnwys esgeulustod) a gyfyd mewn perthynas â neu fel rhan o’r Cytundeb hwn.
12.2 Mae pob gwarant, a’r holl amodau a thelerau eraill a gyflwynir gan statud neu ddeddf
gyffredin, a ganiateir i’r graddau eithaf gan y gyfraith, wedi’u heithrio o’r Cytundeb.
12.3 Nid oes unrhyw beth yn yr Amodau hyn yn cyfyngu ar nac yn eithrio atebolrwydd y Gweithredwr am y canlynol:
12.3.1 am farwolaeth neu anaf personol yn sgil esgeulustod gan y Gweithredwr; neu
12.3.2 am unrhyw ddifrod neu atebolrwydd i’r Cwsmer o ganlyniad i dwyll neu gamgynrychiolaeth dwyllodrus ar ran y Gweithredwr.
12.4 Yn ddarostyngedig i amodau 12.2, 12.3, 12.5 a 12.6:
12.4.1 ni fydd y Gweithredwr yn atebol i’r Cwsmer, boed mewn camwedd (yn cynnwys
am esgeulustod neu dorri dyletswydd statudol), cytundeb, camgynrychiolaeth neu fel arall
am: golli elw; colli busnes; hysbyddu ewyllys da a / neu golledion tebyg; colli cynilion rhagdybiol; colli nwyddau; colli cytundeb; colli defnydd; colli neu lygru data neu wybodaeth;
neu unrhyw golled economaidd arbennig, anuniongyrchol, ganlyniadol neu bur, costau, difrod, ffioedd neu dreuliau; a
12.4.2 bydd atebolrwydd llwyr y Gweithredwr mewn cytundeb, camwedd (yn cynnwys
esgeulustod neu dorri dyletswydd statudol), camgynrychiolaeth, adferiad neu fel arall a gyfyd
mewn perthynas â pherfformiad neu berfformiad rhagdybiol y Cytundeb yn gyfyngedig i’r
pris a dalwyd gan y Cwsmer am y Gwasanaeth.
12.5 Mae unrhyw eiddo personol sy’n perthyn i’r Cwsmer yn gyfrifoldeb y Cwsmer yn unig
bob amser. Ni fydd y Gweithredwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod
a achosir i eiddo personol y Cwsmer, oni bai fod unrhyw golled neu ddifrod yn ganlyniad i
esgeulustod a brofir ar ran y Gweithredwr, ei gynrychiolwyr neu ei is-gontractwyr.
Cynghorir y Cwsmer yn gryf i sicrhau bod ganddo ei yswiriant ei hun mewn perthynas ag
eiddo personol.
12.6 Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd y Gweithredwr yn atebol mewn unrhyw
ffordd am golled neu ddifrod a ddioddefir gan y Cwsmer neu unrhyw berson arall, ac i’r
graddau y bydd yn codi, o ganlyniad i unrhyw esgeulustod neu weithred amhriodol ar ran y
Cwsmer.
- Eiddo Deallusol
Bydd yr hawlfraint a’r holl hawliau eraill perthnasol i eiddo deallusol yn y cynhyrchion a’r
gwasanaethau a ddangosir yn llyfrynnau, gwefan a deunyddiau eraill y Ganolfan yn parhau’n
eiddo bob amser i’r Gweithredwr neu Gyngor Chwaraeon Cymru (fel sy’n briodol).
- Ffotograffau neu Glipiau Fideo
14.1 Gall ffotograffau neu glipiau fideo o Gwsmeriaid a dynnir gan neu ar ran y Gweithredwr ymddangos yn ein llyfrynnau a’n deunyddiau marchnata neu ar gyfryngau cymdeithasol. Os nad yw Cwsmeriaid yn dymuno cael tynnu eu lluniau neu eu ffilmio, neu os nad ydynt yn dymuno i ffotograffau neu glipiau fideo ohonynt gael eu defnyddio at y dibenion uchod, ticiwch neu ddad-dicio’r bocs perthnasol ar y ffurflen archebu a chodwch y mater hwn gyda hyfforddwr y cwrs.
- Diogelu Data
15.1 Mae hwn yn egluro ein polisi ynghylch y data personol y byddwch yn eu darparu i ni efallai wrth archebu Gwasanaeth, lawrlwytho llyfryn, cofrestru ar gyfer ein llythyrau. Mae’r wybodaeth rydych yn ei rhoi yn cael ei chasglu; i storio; n ddiogel gan Legacy Leisure Limited. Rydym wedi cofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cyf. ZA161950). Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu
15.2 Mae’r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn dibynnu ar a ydych wedi cofrestru ar gyfer Gwasanaethau a digwyddiadau, wedi lawrlwytho llyfryn, neu wedi gwneud ymholiad am Wasanaeth. Yn nodweddiadol, byddwn yn casglu eich enw, cyfeiriad, sefydliad, dyddiad geni, manylion teulu, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cyfeiriad IP. Gall yr wybodaeth hefyd gynnwys manylion am ymweliadau â’n gwefan. Mae’n bosibl y byddwn yn gwirio neu’n ategu’r wybodaeth hon â data sydd ar gael yn gyhoeddus o ffynonellau eraill. Sut bydd gwybodaeth amdanoch chin cael ei defnyddio
15.3 Rydym yn casglu’r wybodaeth hon i’n galluogi i gadw at ein cytundeb gyda chi, i hybu ein buddiannau cyfreithlon o roi gwybod i chi am weithgareddau, cynigion a gwasanaethau sy’n debygol o fod o ddiddordeb, i ddarparu gwasanaethau sydd wedi’u teilwra’n well i’n
cwsmeriaid, i gadw ein cyfrifon a’n cofnodion, i gysylltu â chi yn dilyn ymholiad a wnaethoch ac i gydymffurfio â rhwymedigaethau statudol i atal twyll. Fel rheol byddwn yn cadwr wybodaeth hon yn ystod eich cysylltiad ân gwasanaethau ac fel rheol am gyfnod o 6 blynedd wedi hynny. Ar gyfer post ar-lein, byddwn yn cadwr wybodaeth hon nes i chi ddad-danysgrifio, a gallwch wneud hynny unrhyw bryd.
15.4 Mae’n bosibl y bydd gwybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei rhannu hefyd â’n partneriaid a’n cyflenwyr technoleg er mwyn darparu gwasanaethau i chi. Er nad ydym yn gyffredinol yn trosglwyddo data y tu allan i’r AEE, efallai y byddwn yn defnyddio gwerthwyr meddalwedd cwmwl sydd wedi’u lleoli yn UDA. Bydd y cyflenwyr hyn naill ai’n dod o dan ymrwymiadau cytundebol priodol i ddiogelu data personol neu byddant wedi ymrwymo i Egwyddorion Preifatrwydd cynllun Tarian Preifatrwydd 2.0 Adran Masnach y UDA.
15.5 Hoffem anfon gwybodaeth atoch am ein gwasanaethau a’n digwyddiadau o bryd i’w gilydd drwy’r post, dros y ffôn, ar e-bost, drwy neges destun SMS a negeseuon uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol i sicrhau eich bod yn cael y gorau o’n gwasanaethau ac i roi gwybod i chi am wasanaethau a gweithgareddau perthnasol.
15.6 Byddwn ni a’n partneriaid yn cadw’r holl wybodaeth yn gyfrinachol ac yn cydymffurfio â’r holl gyfrifoldebau o dan gyfreithiau Diogelu Data perthnasol. Ni fyddwn yn gwerthu, yn rhentu nac yn aseinio eich data personol i unrhyw sefydliad neu unigolyn allanol arall. Drwy fwrw ymlaen âch cais am wasanaethau rydych yn cytuno ir telerau hyn. Mae gennych
hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl unrhyw bryd a gallwch ddiweddaru eich
dewisiadau unrhyw bryd drwy anfon e-bost at [email protected].
15.7 Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am drin data personol, neu os hoffech wneud cwyn, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch atom yn y cyfeiriad uchod. Gallwch gael mynediad at ein Polisi Preifatrwydd llawn yn Privacy-Policy-1.pdf (legacyleisure.org.uk) Fel arall, gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau neu gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd
Gwybodaeth yn ico.org.uk.
- Amgylchiadau Y Tu Hwnt i’n Rheolaeth Ni
16.1 Ni fydd y Gweithredwr yn atebol mewn unrhyw ffordd i’r Cwsmer dan y Cytundeb os
caiff ei hatal neu os bydd oedi gyda chyflawni ei rhwymedigaethau o dan y Cytundeb neu os
caiff ei hatal rhag cyflawni ei busnes yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan weithredoedd, digwyddiadau, hepgoriadau neu ddamweiniau y tu hwnt i’w rheolaeth resymol, yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: gweithred gan Dduw, rhyfel, ymosodiad,
gwrthryfel, cythrwfl, dadwrdd sifil, anhrefn, difrod maleisus, tân, llifogydd, epidemig,
cyfyngiadau cwarantîn, streiciau, cloi drysau neu unrhyw anghydfod diwydiannol arall (boed
yn cynnwys y gweithlu yn y Ganolfan neu unrhyw barti arall), prinder llafur, methiant
gwasanaeth cyfleustod neu rwydwaith cludiant, cydymffurfiaeth ag unrhyw gyfraith neu
orchymyn llywodraethol, rheol, rheoliad neu gyfarwyddyd, damwain, diffyg ar beiriannau,
tywydd anarferol o ddifrifol neu darfu ar gyflenwad ynni neu ddiffyg cyflenwyr neu is-
gontractwyr.
- Hawliau Trydydd Parti
17.1 Ni fydd gan berson nad yw’n rhan o’r cytundeb hwn (ac eithrio, pan fo hynny’n berthnasol, unrhyw olynwyr neu aseinïaid a ganiateir) unrhyw hawliau oddi tano neu mewn cysylltiad ag ef, nac yn rhinwedd Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Parti) 1999.
- Ildio
18.1 Ceidw’r Gweithredwr yr hawl i ildio unrhyw rai o’r Amodau, neu’r holl Amodau, hyn.
- Datrys Anghydfodau Mewn achos annhebygol lle bydd anghydfod rhyngom na ellir ei ddatrys trwy drafodaeth, er mwyn cyfyngu ar gostau a dod o hyd i ateb cyflym, mae’r ddau ohonom yn cytuno, cyn i unrhyw gamau llys gael eu cymryd, bod rhaid cyfeirio’r mater i ddechrau at gyfryngu yn unol â Gwasanaeth Cyfryngu Cost Isel CEDR 125 (www.cedr.com/solve/lowcostmediation/). Gall y naill neur llall ohonom gysylltu â CEDR i ofyn am benodi cyfryngwr a bydd rheolaur cynllun hwnnw wedyn yn berthnasol. Gall y naill neu’r llall ohonom awgrymu amser a lleoliad ar gyfer cynnal y cyfryngu, neu os na allwn gytuno, mae gan y cyfryngwr y pŵer i bennu amser a lleoliad. Rhaid talur ffi cyfryngu wrth gyflwyno’r cais i CEDR. Mae pob un ohonom yn gyfrifol am dalu 50% or ffi. Fodd bynnag, gall un ohonom dalur ffi gyfan a bydd y cyfraniad priodol gan y llall wedyn yn ddyledus fel dyled.
- Cyfraith Berthnasol
20.1 Rheolir y Cytundeb ac unrhyw anghydfod neu hawliad a gyfyd ohono neu mewn
perthynas ag ef neu ei bwnc perthnasol gan ddeddf Cymru a Lloegr fel y defnyddir yng Nghymru ac fe’i dehonglir yn unol â hynny.
20.2 Mae’r Cwsmer yn cytuno’n ddiwrthdro y bydd unrhyw anghydfod neu hawliad a gyfyd
o’r Cytundeb hwn neu mewn perthynas ag ef neu ei bwnc perthnasol yn cael sylw yn unol ag
awdurdodaeth eithriol llysoedd Cymru a Lloegr.