CYRSIAU MOR DEITHIO RYA
Os ydych chi’n gapten profiadol sydd eisiau dysgu technegau newydd, neu os nad ydych chi wedi camu ar fwrdd iot erioed, mae ein hystod ni o gyrsiau Morio a Iotio wedi cael eu cynllunio i alluogi pawb i gael profiad gwerthfawr a gwella eu sgiliau ar y dŵr.
Cyfle i ddysgu hanfodion hwylio cychod mawr drwy gymryd rhan yng nghwrs Dechrau Iotio yr RYA, sy’n rhoi cyflwyniad perffaith i forio. Erbyn diwedd y penwythnos, dylech fod yn gyfarwydd â llywio sylfaenol, trin hwyliau, gwaith rhaff, a bod yn ymwybodol o ddiogelwch ar fwrdd cwch.
Mae ein dewis ni o gyrsiau’n cynnwys popeth o ddod yn aelod gweithgar o’r criw i gapten arfordirol a iotfeistr, gan allu cwblhau teithiau mwy anodd yn ystod y dydd a’r nos, a thrin iot mewn amodau mwy heriol.
Mae ein holl gymwysterau a’n cyrsiau wedi’u hachredu gan yr RYA, ac maent yn cael eu cydnabod a’u parchu ledled y byd. Darganfyddwch fwy am ein holl gyrsiau gan ddefnyddio’r dolenni isod. Os oes arnoch chi angen cwrs nad yw wedi’i restru ar ein gwefan ni, bydd ein hyfforddwyr medrus yn gallu rhoi sylw iddo. Cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol ar 0300 3003112 neu e-bostiwch ni ar [email protected] i drafod cyrsiau pwrpasol.
Sylwer, as ellir darparu ein rhaglen Iotio / Morio ar hyn bryd trwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd gallu ieithyddol y sgipwyr.
- 18 years+
- Up to 6 people
- 2 days
- Beginner
Dysgwch hanfodion hwylio cychod mawr ar y cwrs penwythnos RYA Start Yachting hwn, y cyflwyniad perffaith i fordeithio. Darganfyddwch sut beth yw byw ar fwrdd, ac erbyn diwedd y penwythnos dylech fod yn gyfarwydd â llywio sylfaenol, trin hwyliau, gwaith rhaffau a bod yn ymwybodol o ddiogelwch ar fwrdd.
- 18 years+
- 4 people
- 5 days
- Improver
Cyfle i ddatblygu eich sgiliau hwylio iot ar y cwrs yma lle mae’r cyrsiau RYA Criw Medrus ac RYA Capten Arfordirol yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd. Mae ein hyfforddwyr ni i gyd yn gapteiniaid hynod wybodus a phrofiadol a byddant yn sicrhau eich bod yn cael y gorau allan o’ch amser ar fwrdd yr iot.
- 18 years+
- 4 people
- 5 days
- Improver
Cyfle i ddysgu hwylio ar y cwrs morio pum diwrnod pleserus yma lle mae’r cyrsiau RYA Criw Medrus ac RYA Capten Dydd yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd.
- 18 years+
- 4 people
- 2 days
- Advanced
Bydd yr arholiad hwn yn cynnwys asesiad o’ch sgiliau gwibiwr, trin cychod, morwriaeth gyffredinol, llywio, ymwybyddiaeth diogelwch a gwybodaeth am yr IRPCS (rheoliadau gwrthdrawiadau), meteoroleg a signalau. Bydd ymgeiswyr yn cael tasgau i ddangos eu gallu a gellir gofyn cwestiynau hefyd ar unrhyw ran o’r maes llafur ar gyfer yr holl gyrsiau ymarferol ac ar y lan hyd at lefel Cwchfesitr.
- 18 years+
- 4 people
- 5 days
- Advanced
Cwrs hyfforddwr dwys pum niwrnod RYA ar gwch hwylio sydd â chyfarpar da, gan gynnwys yr holl fwyd a llety, gan ganolbwyntio ar dechnegau addysgu, adborth, a chynllunio cwrs hyd at lefel Capten Dydd, sy’n gofyn am sach gysgu bersonol a llawlyfrau RYA.
- 18 years+
- 4 people
- 10 days
- Advanced
- 18 years+
- 4 people
- 5 days
- Advanced
Mae’r wythnos hon ar gyfer unrhyw un a hoffai gael rhywfaint o amser a hyfforddiant ychwanegol ar y môr i baratoi ar gyfer cynnal Arholiad Gwibiwr Arfordir RYA/Cwch Hwylio gyda’r cynnwys yn cael ei ddiffinio gan y rhai sydd ar fwrdd.