Cyrsiau theori achrededig RYA
Mae ein cyrsiau sydd wedi’u hachredu gan yr RYA yn cael eu cydnabod ar draws y byd, sy’n eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau personol neu yrfa mewn canolfannau ledled y byd. Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad, rydym yn sicrhau bod ein hyfforddwyr ym Mhlas Menai yn darparu’r wybodaeth a’r addysg orau bosibl, gyda chefnogaeth blynyddoedd lawer o brofiad ymarferol mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored ac ar y dŵr.
Darganfyddwch fwy am yr holl gyrsiau theori rydyn ni’n eu cynnig gan ddefnyddio’r dolenni isod. Os oes arnoch chi angen cwrs theori nad yw wedi’i restru ar ein gwefan ni, bydd ein hyfforddwyr medrus a phrofiadol yn gallu rhoi sylw iddo. Cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol ar 0300 3003112 neu e-bostiwch ni ar [email protected] i drafod cyrsiau pwrpasol.
Sylwer nad yw Pecynnau Cwrs a Deunyddiau’r RYA ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn hyfforddi staff sydd â gwybodaeth benodol ar y pynciau i ddarparu ein cyrsiau THEORI. Os bydd angen cyfieithydd arnoch ar gyfer y cwrs, rhowch wybod i ni yn y nodiadau wrth archebu.
- 16 years+
- 7 hours
- Beginner
This one-day RYA First Aid course covers all the usual first aid subjects, provides a working knowledge of these from a boating perspective and is aimed at anyone who goes afloat.
- 16 years+
- 10.75 hours
- Beginner
Y dystysgrif hon yw’r cymhwyster lleiaf sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith i reoli gweithrediad offer Galwadau Dewisol Digidol (DSC) VHF a VHF ar unrhyw long â fflag Prydeinig sydd â radio yn wirfoddol. Mae hyn yn cynnwys offer sefydlog a llaw.
- 16 years+
- 8 hours
- Beginner
Dysgwch sut i ddefnyddio un o’r darnau pwysicaf o offer diogelwch ar eich cwch ar y cwrs undydd RYA Sea Survival sydd wedi’i anelu at unrhyw un sy’n mynd i’r môr.
- 16 years+
- 7 days
- Improver
- 16 years+
- 5 days
- Improver
Mae’r cwrs RYA Day Skipper Theory yn darparu cyflwyniad cynhwysfawr i waith siartiau, mordwyo, meteoroleg a hanfodion morwriaeth.
- 16 years+
- 5 days
- Improver
Mae’r cwrs RYA Day Skipper Theory yn darparu cyflwyniad cynhwysfawr i waith siartiau, mordwyo, meteoroleg a hanfodion morwriaeth.
- 16 years+
- 5 days
- Advanced