Neidio i lywio cynradd Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cyrsiau Seafish

Yn Plas Menai, rydym yn falch o gynnig ystod gynhwysfawr o gyrsiau Seafish – mae cyrsiau hyfforddiant diogelwch yn orfodol, ac yn ôl y gyfraith, rhaid eu cwblhau cyn mynd i'r môr.

Yn Plas Menai, rydym yn cefnogi hyfforddiant i bobl sy’n gweithio yn y diwydiant pysgota, ac yn cydlynu cyrsiau ac adnoddau hyfforddi ar gyfer diogelwch a sgiliau i bobl sy’n gweithio ar gychod pysgota sydd wedi’u cofrestru yn y DU.

Mae rhai cyrsiau hyfforddi diogelwch yn orfodol, ac yn ôl y gyfraith, rhaid eu cwblhau cyn mynd i’r môr.

Mae hefyd yn bwysig i unrhyw un sy’n gweithio ar gwch pysgota gwblhau cyrsiau gwirfoddol eraill er mwyn cadw eu sgiliau a’u gwybodaeth yn gyfredol.

Hyfforddiant gorfodol – Hyfforddiant diogelwch sylfaenol – CYRSIAU SY’N DOD I FYNY

Rhaid i bawb sy’n gweithio ar gwch pysgota masnachol sydd wedi’i gofrestru yn y DU gwblhau hyfforddiant yn y canlynol:

  • Cwrs Ymwybyddiaeth Diogelwch (1 diwrnod) – DYDD SADWRN 21 TACHWEDD
  • Cwrs Sylfaenol Iechyd a Diogelwch (1 diwrnod) – DYDD SUL 22 TACHWEDD
  • Cwrs Sylfaenol Diffodd Tân (1 diwrnod) – DYDD LUN 23 TACHWEDD
  • Cwrs Sylfaenol Cymorth Cyntaf (1 diwrnod) – DYDD MAWRTH 24 TACHWEDD
  • Cwrs Goroesi ar y Môr (1 diwrnod) – DYDD MERCHER 25 TACHWEDD

Rhaid cwblhau Diffodd Tân Sylfaenol, Cymorth Cyntaf Sylfaenol ac Iechyd a Diogelwch Sylfaenol o fewn tri mis i ddechrau gweithio.

Rhaid i bysgotwyr profiadol – y rhai sydd wedi bod yn gweithio am ddwy flynedd neu fwy – gwblhau Ymwybyddiaeth Diogelwch. Gall newydd-ddyfodiaid ymgymryd â’r cwrs hwn ar ôl iddynt fod yn gweithio am o leiaf chwe mis.

Mae Seafish wedi datblygu cyrsiau hyfforddi sy’n cwmpasu’r pum pwnc hyn, a gyflwynir gan y tîm yma ym Mhlas Menai ochr yn ochr â hyfforddwyr Seafish dibynadwy.

Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i bysgotwyr ddal tystysgrifau Seafish sy’n ardystio cwblhau hyfforddiant diogelwch sylfaenol.

Gallwch gysylltu â Jess Lloyd, ein Cydlynydd Seafish ym Mhlas Menai, ar 0300 300 3112. Fel arall, llenwch y ffurflen isod a gallwn gwblhau eich archeb.

 

Cysylltwch â Ni

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Enw(Required)
This field is for validation purposes and should be left unchanged.