Neidio i lywio cynradd Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

CYMERADWYAETH HYFFORDDWR AML-FWRDD RYA – 2 DDIWRNOD

Manylion Cyflym

Person

£ 196.62

Bydd y 2 ddiwrnod o hyfforddiant yn canolbwyntio ar friffio da, cynnal sesiynau i wella perfformiad myfyrwyr a chyflwyno sesiynau dadfriffio o safon i grwpiau, gan ganolbwyntio ar feysydd sy’n arbennig o berthnasol i hwylio a hyfforddi hwylio aml-fwrdd.
Er mwyn cynnal sesiynau llwyddiannus disgwylir gwybodaeth ymarferol dda am dechnegau hwylio a thrin aml-fwrdd.

Beth sydd wedi’i gynnwys
Bydd ein hyfforddwyr cyfeillgar a phrofiadol yn tywys y cyfranogwyr bob cam o’r ffordd, gan ddarparu cyfarwyddyd clir, anogaeth ac amgylchedd dysgu cadarnhaol.

Beth nad yw wedi’i gynnwys
Diodydd poeth a bwyd drwy gydol y cwrs

 

Manylion cofrestru
Cyrhaeddwch 15 munud cyn amser dechrau’r cwrs

Beth i’w ddod gyda chi

– Gwisg nofio a thywel
– Esgidiau ar gyfer ar y dŵr
– Sanau sy’n gorchuddio’ch fferau
– 50c ar gyfer y locer

Meini Prawf Cymhwysedd

  • Cymhwyster RYA Hyfforddwr Dingi
  • Un tymor o brofiad yn addysgu hwylio o leiaf
  • Profiad o hwylio dingi aml-fwrdd gyda neu heb hwyliau trisgwar anghymesur
  • Profiad blaenorol o drin cwch pŵer mewn amgylchedd addysgu
  • Aelod o’r RYA
  • Cwblhau gwaith cyn y cwrs (bydd dolen i’r gwaith cyn y cwrs yn cael ei chynnwys yn eich e-bost yn cadarnhau’r archeb)

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu gan Asesydd Hyfforddwyr yr RYA a bydd yn cael ei asesu’n barhaus ar y dŵr. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd cymwysterau hyfforddwr yr RYA yn cael eu hailddilysu am 5 mlynedd gyda thystysgrif newydd yn cael ei hanfon gyda’r gymeradwyaeth wedi’i hychwanegu.

Ychwanegion
– Llety ar gael fel ychwanegiad