Fel canolfan RYA (Royal Yachting Association) gyda dros 40 mlynedd o brofiad o gynnal gweithgareddau ar y dŵr, rydym yn falch o gael enw da rhyngwladol am ddarparu’r gwasanaethau a’r cyrsiau gorau i ei’n cwstmeriad.
Bydd ein cyrsiau ieuenctid, ein halldeithiau a’n wythnosau gweithgareddau yn diddanu’r plant, wrth iddynt wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn anturiaethau cyffrous, gan greu atgofion a fydd yn para oes.
Nid ond gweithgareddau dŵr yn yr ydym yn eu cynnig chwaith! Rydym yn cynnal detholiad o anturiaethau dan do ac awyr agored, gan gynnwys rhaffau uchel, wal ddringo, ac alldeithiau beicio mynydd a llawer mwy.
Dewch I Plas Menai i gael wythnos llawn hwyl, rhowch cais i gweithgareddau newydd fel Hwylio, Caiaco, Cwrs Raffau Uchel a llawer mwy. Mae’r wythnosau yma wedi cael ei wneud i neud yn siwr fod bob plentyn yn cael wythnos llawn hwyl.
Gewch digon o hwyl yn yr wythnosau yma, efallai y byddwch chi’n gwneud ffrindiau wneith parhau am oes fel eich atgofion.
Cyffro, antur a mwy fel rhan o’r wythnos weithgarwch yma sy’n llawn adrenalin.
Mae ar gyfer plant ychydig yn hyn na’r wythnos Antur ac mae’r wythnos hon yn cynnig gweithgareddau ychydig yn fwy heriol.
Cychwyn ar Antur gyda’n Sesiynau CAIAC DARGANFOD!
Byddwch yn goncro ein CWRS RHAFFAU newydd sbon
Hwylio am Hwyl gyda’n Sesiynau HWYLIO DARGANFOD
Gwnewch Sblash gyda’n Sesiynau Darganfod SUP!
Dal y Gwynt yn Ein Sesiwn Darganfod Hwylfyrddio!
Ymunwch â ni am benwythnos cymdeithasol ar fordaith sy’n cynnig golygfeydd a bywyd gwyllt ysblennydd, gan gynnwys clogwyni môr, cestyll hanesyddol, trefi glan y dŵr Porthaethwy a Biwmares, gogoniant pier Fictoraidd Bangor, goleudai, ynysoedd, morloi, adar môr a phalod, i enwi ond ychydig.
Yn rhoi cyflwyniad i yrru cychod modur, technegau ar gyfer lansio ac adfer, trin cychod bob dydd a defnyddio offer diogelwch. Mae’n gwrs blasu gwych i yrru cychod modur, mae hefyd yn gwrs perffaith i’r plant hynny sy’n mynd i yrru cychod gyda’u teuluoedd i sicrhau y gallant gymryd rhan weithredol yn eich teithiau ar y dŵr.
Cwrdd â ffrindiau newydd ac ymuno yn yr hwyl
Mae Plas Menai yn cynnig sesiynau unwaith eto i blant lleol rhwng 7 a 14 oed yn ystod ein Diwrnod Nofio Diogel Cymunedol