Neidio i lywio cynradd Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cyrsiau Caiacio Môr

Mae ein cwrs Darganfod Caiacio Môr pum diwrnod yn gyflwyniad delfrydol i’r gweithgaredd, gan ddarparu sylfaen gadarn i adeiladu arni a datblygu sgiliau mwy technegol. Nid oes angen unrhyw brofiad o gaiacio môr i gymryd rhan yn y cwrs hwn. Fodd bynnag, mae profiad blaenorol mewn caiac pwrpas cyffredinol yn cael ei ffafrioa gellir sicrhau hyn drwy gyfrwng ein hystod o gyrsiau caiacio ym Mhlas Menai.

Wrth i chi fagu hyder, ac ar gyfer caiacwyr môr mwy profiadol, ewch â’ch sgiliau i’r lefel nesaf gyda’n cyrsiau gloywi a lefel uwch, lle byddwch chi’n dod yn fwy medrus ac yn dysgu technegau newydd ar y dŵr.

Mae gennym ni hefyd deithiau tywys gyda’n hyfforddwyr caiac profiadol, lle byddwch chi’n rhoi eich sgiliau ar brawf gyda rasys llanwol, gorlifau, trobyllau a thonnau sefyll.

Mae mwy o wybodaeth am ein holl gyrsiau a’n tripiau Caiacio Môr ar gael gan ddefnyddio’r dolenni isod.

Sylwch nad oes modd cyflwyno ein rhaglen Caiac Môr trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd yn seiliedig ar alluoedd iaith yr hyfforddwr.