Mae croeso i bawb yn ein ffreutur hamddenol, y lle perffaith i ymlacio a mwynhau blas o Ogledd Cymru.
Rydym yn falch i weini prydau bwyd ffres o gynhwysion lleol, gyda brecwast, cinio, a swper i gadw eich egni drwy eich anturiaethau. Dechreuwch eich diwrnod y ffordd orau efo brecwast llawn, neu gorffennwch eich diwrnod efo un o’n prydau tymohorol blasus. Mae ein bwydlenni yn newid drwy gydol y diwrnod i gadw prydau yn ffres a diddorol.
Ar ôl diwrnod ar y dŵr neu allan yn yr awyr agored, ymunwch a ni i rhannu eich straeon a mwynhau bwyd da.
O brydau llawn egni, i ddanteithion cysurus clasurol, mae rhywbeth gennym ar gyfer bob awydd. P’un a ydych chi yma ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau, neu fel rhan o grŵp, mae croeso cynnes bob amser i chi.
Yn cynllunio achlysur arbennig?
Gallwn ddarparu ar gyfer grwpiau mawr neu bach, o fwyd ysgafn caffi i ginio llawn tri chwrs gyda gwasanaeth bwrdd. Penblwyddi neu dathliadau arbennig, beth bynnag yw’r achlysur, Plas Menai yw’r lleoliad perffaith.
Peidiwch a phoeni.
Gall ein cogyddion ymdopi ac addasu ar gyfer alergeddau, anghenion dietegol, a dewisiadau personol. Gadewch i ni wybod beth be’ da chi ei angen, does dim byd yn ormod o drafferth.
Edrych am ddiod?
Mae ein bar cyfforddus (yn agor ar ofyn) wedi’i stocio gyda cwrw lleol, detholiad gwych o win, diodydd meddal, a byrbrydau bar. Y lle perffaith i ymlacio ar ol diwrnod prysur. Mae ganddom hefyd ardal “grab and go” cyfleus yn y derbynfa a ar gyfer coffi a byrbrydau, yn ogystal â pheiriannau gwerthu ar eich cyfer bob awr o’r dydd.
Mae bwydlenni sampl ar gael isod. I ddarganfod mwy neu i drafod eich anghenion ymhellach, llenwch y ffurflen a mi fydd aelod o’n tîm cyfeillgar yn cysylltu â chi.