Quick Details
Person
Mae ein Clwb Hwylfyrddio Merched i gyd yn ymwneud â rhoi cynnig ar rywbeth newydd ac anghofio’r rhwystrau meddyliol, mae hwylfyrddio’n wych i bob oed, siâp a gallu.
Mae’n gamsyniad cyffredin bod hwylfyrddio’n anodd ei ddysgu, mewn gwirionedd mae’n amser gwych i ddechreuwyr ymuno â’r gamp. Mae datblygiadau yn yr offer yn golygu bod sefydlogrwydd ar y bwrdd yn haws. Mae’r hwyliau, y mastiau a’r bwmiau yn llawer ysgafnach sy’n golygu nad oes rhaid i chi boeni am geisio codi hwyl drwm sydd wedi dyddio neu’n rhy fawr i chi ei defnyddio.
Beth sydd wedi’i gynnwys:
Mae ein sesiynau nos Fercher wedi’u cynllunio ar gyfer menywod i ddod i roi cynnig ar rywbeth hollol wahanol heb fod angen unrhyw brofiad blaenorol.
Mae’n gyflwyniad gwych i hwylfyrddio, am gost isel rydych chi’n cael profi’r gamp gyda hyfforddwyr profiadol a chymwys, ac mae hefyd yn gamp gymdeithasol wych.
Mae hwylfyrddio yn gamp wych i’w chodi ac mae’n gymharol hawdd dysgu sut i feistroli’r pethau sylfaenol.
Ym Mhlas Menai rydym yn darparu’r offer diweddaraf sy’n sicrhau bod dysgu sut i hwylfyrddio yn hwyl ac yn hawdd.
Bydd Plas Menai yn darparu’r holl ddillad amddiffynnol personol angenrheidiol gan gynnwys siwtiau gwlyb, dillad gwrth-ddŵr, cymhorthion arnofio a helmedau.
Dewch â’r canlynol gyda chi:
- Dillad nofio a thywel
- Esgidiau ar gyfer y dŵr
- Hon sy’n gorchuddio’ch fferau
- 50c am y locer